Dechrau adeiladu amddiffynfeydd arfordir gwerth £150m

  • Cyhoeddwyd
Prom Bae ColwynFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Felinheli, Rhyl, Biwmares a Chasnewydd ymysg y mannau fydd yn elwa o'r cynlluniau hyn

Mae'r gwaith ar gyfer cynllun £150m i reoli risg erydiad a llifogydd ar hyd arfordir Cymru wedi dechrau.

Y nod yw lleihau'r risg i dros 18,000 o adeiladau drwy drwsio a chreu amddiffynfeydd arfordirol newydd.

Ymhlith y cynlluniau fydd yn dechrau yn y flwyddyn i ddod mae amddiffynfeydd clustogi yn Y Felinheli, cryfhau'r amddiffynfeydd yn nwyrain Y Rhyl a chynnal a chadw ar forfur Aberafan.

Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod y buddsoddiad yn "ein rhoi mewn sefyllfa gref i wynebu'r dyfodol".

Hefyd, dros y 12 mis nesaf bydd buddsoddiad pellach o dros £50m mewn gwaith rheoli risg llifogydd ac erydiad ar hyd yr arfordir.

Bydd yr arian hwn yn helpu i gwblhau cynlluniau ym Miwmares, Llanfair Talhaiarn a Thalgarth yn ogystal â chychwyn gwaith adeiladu yn Llansannan, Llanmaes, Casnewydd a'r Trallwng.

Mae disgwyl i dros 850 o gartrefi elwa o'r cynlluniau hyn.

Cynlluniau pellach:

  • Sefydlu pwyllgor i roi cyngor a nodi'r arferion gorau er mwyn rheoli risg;

  • £2.8m i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cynlluniau amddiffyn ac atgyfnerthu;

  • £1m ar gyfer y Grant Gwaith Bach sy'n caniatáu i awdurdodau lleol gynnal gwaith cynnal a chadw mân;

  • Ymgynghoriad ar strategaeth genedlaethol newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogi'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf yn flaenoriaeth, yn ôl Lesley Griffiths

Ychwanegodd Ms Griffiths: "Mae llifogydd yn gallu cael effaith ddychrynllyd ar fywydau pobl, a dyna pam ei bod yn flaenoriaeth gennym o hyd i roi cymaint o gefnogaeth i'r rheiny sy'n wynebu'r risg fwyaf ag y medrwn.

"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn, ynghyd â'n strategaeth genedlaethol newydd a Phwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i wynebu'r dyfodol a sicrhau ein bod yn gallu dygymod â heriau'r newid yn yr hinsawdd.

"Bydd y rhaglen yn sicrhau bod rheolaeth gynaliadwy ar ein hamgylchedd yn ganolog i bob penderfyniad a wnawn fel rhan o'n hymdrech i amddiffyn cartrefi a busnesau ledled Cymru."