'Cost amddiffynfeydd môr yn annheg' medd arweinydd Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Ellen ap Gwynn nad yw'n deg bod rhaid i gynghorau arfordirol dalu mwy

Mae'n annheg fod siroedd yr arfordir yn gorfod talu am amddiffynfeydd rhag y môr, yn ôl arweinydd cyngor sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ysgwyddo'r baich yn gyfan gwbl.

Daw sylwadau Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion, wrth i'r sir ystyried cynlluniau i godi amddiffynfeydd ar gyfer promenâd Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n rhoi cymhorthdal o 25% ar gyfer cynlluniau o'r fath, ond mae'n golygu y bydd yn rhaid i Geredigion gyfrannu rhwng £2m-£3m.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi gwybod i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ym mis Chwefror y byddai'r grant ar gyfer cynlluniau arfordirol yn parhau ar 75%.

"Fe wnaeth CLllC gadarnhau eu bod yn fodlon gyda'r sefyllfa," meddai'r llefarydd.

Cryfhau wal y môr

Cafodd promenâd Aberystwyth ei ddifrodi'n wael yn ystod tywydd garw yn 2014.

Penderfynodd y sir fod angen cryfhau'r amddiffynfeydd, gan gyhoeddi cynlluniau i godi wal fach arall ar hyd y promenâd.

Y gobaith yw y bydd yr ail wal yn atal dŵr y môr rhag rhedeg i'r ffordd ac i adeiladau.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau'r prom yn 2014 oherwydd y difrod

Mae Ellen ap Gwynn yn dweud mai Llywodraeth Cymru fyddai wedi talu am y gwaith yn y gorffennol, ond nawr bod angen i gynghorau gyfrannu at y gost.

Ychwanegodd fod y sefyllfa yn anoddach fyth o ystyried y "gwasgu sydd wedi bod ar gyllidebau awdurdodau lleol Cymru dros bump i chwe blynedd".

"Mae'n cymryd amser i gael arian cyfalaf i lifo trwyddo a nawr mae rheolau wedi newid ers i ni wneud cynlluniau yn y Borth er enghraifft - ond er gwaetha gwasgfa ariannol mae 'na ofyn i ni bellach roi 25% o gymorth i fatchio gwariant sy'n dod lawr.

"Felly dyw hi ddim yn amser da, mae'r esgid wedi bod yn gwasgu dros y blynyddoedd diwethaf.

"Dyw pob sir ddim yn sir arfordirol ond mae pob sir sy'n arfordirol yn gorfod rhoi llaw yn eu pocedi, yn bersonol dwi ddim yn meddwl bod hynny'n deg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Llwyd yn cydnabod pwysigrwydd y promonâd fel atynaid

Yn ôl Rhodri Llwyd, swyddog arweiniol corfforaethol Ceredigion, mae'n bwysig amddiffyn tai a'r promenâd rhag effeithiau llifogydd, ond mae'r cyngor hefyd yn deall pwysigrwydd y promenâd fel atyniad twristaidd.

Dywedodd fod dros 20 opsiwn wedi eu hystyried ar y dechrau, gan gynnwys rhwystrau yn y môr, codi lefel y promenâd a chodi wal o flaen y promenâd.

Erbyn hyn maen nhw wedi penderfynu o blaid "wal fach tua cefn y promenâd a trio peidio amharu gormod ar fwynhad pobl o'r promenâd... ond hefyd amddiffyn y dref rhag llifogydd".

"Fe fydd yn atal y dŵr rhag cyrraedd yr hewl a'r eiddo tu cefn iddo."

Disgrifiad o’r llun,

Difrod wedi tywydd garw yn Aberystwyth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn talu'r gost o wneud gwaith paratoadol a chynllunio dros y ddwy flynedd diwethaf, yn ogystal ag ariannu 75% o gost yr amddiffynfeydd.

"Mae gan awdurdodau lleol yr opsiwn o weithio mewn partneriaeth gadag eraill er mwyn dod o hyd i'r 25% sy'n weddill."

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae ein harfordir yn cynnig llawer o fuddion i'r gymuned a'r economi leol, gan gynnwys cefnogi busnesau lleol a thwristiaeth.

"Mae buddsoddi mewn rheoli risg arfordirol yn cyfrannu tuag at y buddion yna.

"Ysgrifennodd y Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn, at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Chwefror er mwyn dweud y bydd cyllid grant gan y llywodraeth ar gyfer cynlluniau arfordirol yn parhau ar 75%.

"Ar y pryd, fe wnaeth y GLlLC gadarnhau ei bod yn fodlon gyda hynny."