Cyngor Penfro i ddiddymu tollau Pont Cleddau ar 1 Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Pont Cleddau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bont ei hagor 44 mlynedd yn ôl

Mae'r tollau ar gerbydau sy'n croesi Pont Cleddau ar fin dod i ben, yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

Ar 1 Ebrill, bydd pobl yn cael gyrru dros y bont heb orfod talu toll am y tro cyntaf ers iddi agor 44 o flynyddoedd yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £3m y flwyddyn i Gyngor Sir Penfro i'w ddigolledu am y refeniw y bydd yn ei golli.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates ei fod yn "hyderus y bydd y newid yn rhoi hwb i dwf yr economi leol".

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n diddymu'r tollau ar Bont Cleddau fel rhan o'u cytundeb â Phlaid Cymru ynghylch y gyllideb.

Mewn llythyr i'r cyngor sir, fe wnaeth Mr Skates gynnig y £3m ynghyd â thaliad untro i dalu am ddymchwel adeiladau'r dollfa a thalu costau.

Bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu ymhen 20 mlynedd.

'Hwb i'r economi leol'

"Rwy'n hyderus y byddwn, trwy gael gwared ar y tollau ar Bont Cleddau, yn rhoi hwb i dwf yr economi leol, yn cysylltu busnesau a chymunedau'n well ac yn ei gwneud hi'n haws ac yn rhatach i bobl deithio i fanteisio ar gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel," meddai Mr Skates.

"Mae astudiaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Penfro yn dangos y byddai diddymu'r tollau'n cefnogi strategaeth datblygu economaidd yr ardal ac yn rhoi hwb i'r economi leol, i'r Ardal Fenter ac i fusnesau bach a chanolig yr ardal."

Ychwanegodd bod y cyngor wedi gwneud popeth o fewn ei allu i helpu'r staff fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau, a'i fod yn diolch am eu gwasanaeth cyhoeddus.