Gofal 'priodol' i garcharor ar ddiwrnod ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Cafodd garcharor ofal meddygol priodol ar ddiwrnod ei farwolaeth yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam, yn ôl ymchwiliad ombwdsmon i'r digwyddiad.
Clywodd cwest bod Luke Jones, 22 oed ac o Flaenau Ffestiniog, wedi ei ganfod yn farw yn y carchar ar 31 Mawrth y llynedd.
Wedi archwiliad post mortem fis Ebrill y llynedd, fe glywodd gwrandawiad cychwynnol bod patholegydd wedi nodi achos dros dro'r farwolaeth fel digwyddiad cardiaidd yn gysylltiedig â defnyddio'r cyffur 'spice'.
Mae disgwyl i'r cwest llawn gael ei gynnal "ryw bryd eleni".
'Elfen annaturiol' i'r achos
Cafodd Mr Jones ei gludo i Ysbyty Wrecsam Maelor ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol yn ei gell yn hwyr yn y prynhawn.
Daeth cadarnhad o'i farwolaeth am 19:20.
Yn y gwrandawiad yn Llandudno, dywedodd y Crwner John Gittins bod adroddiad yr Ombwdsmon Carchardai wedi ei gwblhau, ac nad oedd yn cynnwys beirniadaeth o'r gofal gafodd Mr Jones y diwrnod hwnnw.
Ar y pryd, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Cadarnhaodd y crwner y byddai'r cwest llawn yn cael ei gynnal gyda rheithgor oherwydd bod "elfen annaturiol" ynghlwm â'r achos.
Ychwanegodd y crwner mai Mr Jones oedd y carcharor cyntaf i farw yng Ngharchar Berwyn: "Er nad ydy hynny'n ei wneud yn fwy na llai pwysig, mae'n arwyddocaol mewn sawl ffordd."
Mae disgwyl gwrandawiad pellach ym mis Mehefin ac yna'r cwest llawn yn ddiweddarach eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2018