Glanhau gyda finegr: Tips cadw tŷ naturiol Winnie James
- Cyhoeddwyd
Gydag arwyddion y gwanwyn wedi cyrraedd bydd rhai ohonon ni'n teimlo fel sgwrio a rhoi trefn ar y tŷ - ond does dim rhaid gwario ffortiwn ar chwistrellwyr a photeli drud sy'n llawn cemegion, heb sôn am fod yn cyfrannu at broblem plastig y byd, meddai Winnie James.
Finegr, halen, bicarbonate of soda a lemon ydy'r cynhwysion naturiol mae hi'n eu defnyddio'n wythnosol i lanhau meddai Winnie, sydd wedi bod yn rhannu cyngor am goginio a chadw tŷ ar Radio Cymru ac S4C ers blynyddoedd.
Ond o'r rhain, finegar yw'r brenin, meddai.
"Gan ei bod hi'n amser glanhau gwanwynol dyma ganu clod i finegr fel glanhawyr heb ei ail," meddai Winnie.
"Unrhyw fath o finegar - mae'r gwyn yn well na'r tywyll ond mae hwnnw'n gwneud y job yn iawn. Defnyddiwch ddwy hen botel spray - un i'r gegin a'r llall i'r bathrwm.
"Pam gwario dro ar ôl tro ar boteli glanhau pan y gallwch brynu potel o finegr gwyn sy'n gwneud y gwaith llawn cystal ac yn safio arian mewn blwyddyn?"
Dyma tips Winnie ar gyfer glanhau heb gemegion:
Yr ystafell 'molchi
"Ar gyfer marciau stwbwrn yn yr ystafell ymolchi mae finegr gwyn yn fendigedig ac yn ddiheintydd da."
Cymysgwch un mesur o ddŵr gyda phump o finegr a'i roi mewn chwistrellwr.
Dwi'n licio cadw un lan lofft ac un lawr llawr ac mae o hyd yn handi dros ben.
Glanhau 'venetian blinds'
Defnyddiwch faneg gotwm neu hen hosan a'i dipio mewn rhywfaint o ddŵr a finegr nes ei bod yn llaith.
Gwisgwch am eich llaw a glanhewch bob ochr y bleinds ar yr un tro.
Saim
I lanhau saim o unrhyw le defnyddiwch hanner finegr gwyn a rhywfaint o ddŵr twym.
Mae'n dda iawn ar gyfer worktops llechi a'r lle tân.
Glanhau'r ffwrn (popty)
Golchwch efo finegr a dŵr twym.
Os yw'n fudr iawn gallwch ei socian mewn pâst o soda pobi a dŵr yn gyntaf.
Prynwch oven liner i roi ar y gwaelod i ddal y 'drips' - mi barith am flwyddyn drwy ei olchi bob tro mae angen, maen nhw'n costio tua £1.99 (gallwch ddefnyddio ffoil hefyd).
Addurniadau pres
"Does dim llawer o bobl yn defnyddio rhain nawr ond mi rydw i - mae brass candlesticks yn bob man gyda fi, wedi eu cael ar ôl fy mam a'n famgu ac maen nhw mor bert amser byddan nhw'n lân neis.
"Mae'n jobyn caled os am wneud jobyn da."
Cyn dechrau berwch nhw mewn dŵr a halen a finegr.
Sychwch yn sych wedyn eu glanhau gyda'ch glanhawr pres arferol.
Os y'ch chi mo'yn rhoi shein i'r bras, rwbiwch gyda olew olewydd.
Marciau dŵr
Er mwyn cael gwraed ar farciau dŵr ar ddodrefn pren cymysgwch rhywfaint o olew olewydd a finegr.
Rhowch e ar ddwster glân a rhwbiwch gyda'r graen.
Defnyddiwch ddwster arall a glanhau nes eu bod yn sgleinio.
Lladd chwyn
"Jobyn arall yr amser hyn o'r flwyddyn yw lladd chwyn, wrth ddrws y ffrynt er enghraifft."
Chwistrellwch neu arllwyswch apple cider vinegar a byddant wedi diflannu cyn y bore.
Rhew ar ffenestr y car
"Falle bod eich car yn sefyll mas dros nos yn y tywydd oer a'r rhew ar y ffenestri yn peri gofid yn y bore. Paratowch ymlaen llaw wrth ddefnyddio hen chwsitrellwr o'r cwpwrdd glanhau."
Cymyswch dri part o finegr i un part o ddŵr.
Chwistrellwch dros y ffenestri cyn mynd mewn i'r tŷ yn y nos a bore fory byddwch yn gallu cychwyn ar eich taith heb golli amser.
Cadwch y spray yn y car dros y gaeaf.
Beth arall?
"Rwy' wastad yn mynd nôl i'r hen feddyginiaeth ac rwy'n joio clywed cynghorion," meddai Winnie sy'n aml yn eu rhannu, a dysgu rhai newydd, mewn sgyrsiau gyda chlybiau Merched y Wawr.
Dyma rai o'r cynghorion eraill mae wedi eu casglu dros y blynyddoedd:
I gael gwared ar arogl coginio o'r meicrodon rhowch gwpaned o ddŵr gydag un bag te a'i ferwi am bum munud.
Bydd y clêr (gwybed bach) yn dod mas nawr ac yn trochi'r ffenestri. Dw i'n defnyddio te twym i gael gwared ar smotiau clêr ar ffenestri.
Mae croen afal yn dda i lanhau'r tu mewn i sosbenni aliwminiwm - berwch y croen gydag ychydig o ddŵr, gallwch wneud hyn bob tro ar ôl gwneud tarten afalau, yn lle eu rhoi yn y sbwriel.
Os ydych chi eisiau osgoi niwl i fynd ar y ffenestri pan rydych chi'n coginio gyda lot o sosbenni, torrwch daten yn ei hanner a'i rhwbio dros y ffenestri. Wedyn defnyddio clwtyn glân sych i'w glanhau a chewch chi ddim trwbl.
I osgoi llysiau neu laeth i ferwi dros y sosban, ychwanegwch lwmpyn o fenyn.
Os digwydd i chi losgi sosban, mae darn o riwbob yn syth o'r ardd wedi'i rwbio i'r sosban yn codi'r llosg. Mae asid y riwbob yn rhyddhau'r llosg yn syth.
Os bydd dished o goffi yn rhy gryf, adiwch binshed o halen. Mae'n lleihau'r blas chwerw!
Ar gyfer gwddw tost, garglwch efo port, mae'n well na dŵr a halen ac ar y diwedd gallwch ei lyncu - lladd dau aderyn gydag un ergyd!
Mae olew coginio cystal ag unrhyw beth, os nad gwell, am lanhau dwylo ar ôl paentio, yn lle tyrps.
Falle eich bod chi'n gofalu am blant bach, sy'n gadael marciau crayons ar y wal - rhwbiwch yn ofalus gyda phast dannedd, yna sychu'r past yn ofalus gyda chlwtyn glân ac mae'n gwneud jobyn hyfryd!
Dydy Cymru Fyw ddim wedi profi pob un o gynghorion Winnie - eto - ond mae Winnie'n sicr eu bod i gyd yn gweithio. Pob hwyl ar y glanhau!
Hefyd o ddiddordeb: