Chwe Gwlad: Dau newid ar gyfer gêm Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Elinor SnowsillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Elinor Snowsill fydd yn dechrau yn safle'r maswr

Mae yna ddau newid i dîm rygbi merched Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Elinor Snowsill fydd yn dechrau yn safle'r maswr tra bod Alisha Butchers yn dychwelyd i'r rheng ôl.

Llwyddodd carfan Rowland Phillips i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ym mhencampwriaeth eleni wrth drechu'r Alban o 17-15 mewn gornest hynod gyffrous yng Nglasgow.

Dim ond un buddugoliaeth sydd gan Iwerddon yn y gystadleuaeth hyd yma hefyd, a pe bai Cymru yn llwyddo i drechu'r Gwyddelod yna byddant yn gorffen ym mhedwerydd safle'r tabl.

Bydd y gic gyntaf am 13:30 ddydd Sul ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

Tîm Cymru

Lauren Smyth; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Lleucu George, Jess Kavanagh; Elinor Snowsill, Keira Bevan; Caryl Thomas, Carys Phillips (C), Amy Evans, Gwen Crabb, Mel Clay, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap.

Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Cerys Hale, Alex Callender, Manon Johnes, Ffion Lewis, Robyn Wilkins, Lisa Neumann.