Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru v Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm rygbi Cymru yn croesawu Iwerddon i Stadiwm Pricipality yn ddiweddarach gyda'r gobaith o gipio tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a sicrhau eu Camp Lawn cyntaf ers 2012.
Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dewis peidio gwneud unrhyw newidiadau i'r 15 a drechodd Yr Alban yng Nghaeredin.
Os nad yw Cymru'n llwyddo i ennill, yna mae gan Iwerddon a Lloegr gyfle i gipio'r bencampwriaeth oherwydd y gwahaniaeth mewn pwyntiau bonws.
Nid yw Cymru wedi sgorio unrhyw bwyntiau bonws hyd yma, tra bod Lloegr wedi casglu tri mewn buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal, ac Iwerddon wedi ennill dau yn erbyn yr Eidal a Ffrainc.
Dywedodd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robyn McBryde yn gynharach yn yr wythnos y bydd rhaid i Gymru guro "tîm gorau'r byd" er mwyn ennill y Gamp Lawn ddydd Sadwrn.
Ar hyn o bryd mae Iwerddon yn ail yn netholion y byd, gyda Chymru yn y trydydd safle.
Iwerddon oedd y tîm diwethaf i guro Cymru 'nol ym mis Chwefror 2018, ac ers hynny mae tîm Gatland wedi mynd ar rediad o 13 buddugoliaeth yn olynol.
To y stadiwm ar agor
Daeth cadarnhad ddydd Gwener y bydd to Stadiwm Principality ar agor ar gyfer y gêm yn dilyn cais gan Iwerddon.
Mae rheolau'r gystadleuaeth yn nodi fod rhaid i'r ddau dîm gytuno os am gau'r to.
Ond mae prif hyfforddwr Iwerddon, Joe Schmidt, yn honni fod Cymru wedi mynd yn groes i'r drefn ac wedi gwneud cais i'r awdurdodau i gau'r to yn groes i ddymuniad y Gwyddelod.
Dyma fydd 50fed gêm Gatland fel rheolwr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a pe bai Cymru yn fuddugol dyma fyddai'r drydedd gamp lawn i'r gŵr o Seland Newydd ei churo - record ar gyfer unrhyw reolwr.
Mae Gatland eisoes wedi cyhoeddi mai dyma fydd ei ymgyrch olaf yn y Chwe Gwlad fel rheolwr Cymru.
'Anodd newid y tîm'
Dywedodd Gatland: "Roedden ni'n teimlo ei bod hi'n anodd i ni newid tîm oedd yn curo, yn enwedig gyda'r cyfle i gipio Camp Lawn."
"Drwy'r wythnos rydyn ni wedi bod dweud fod rhaid i ni fanteisio ar y cyfle yn hytrach na rhedeg i ffwrdd ohono.
"Rydw i wedi dweud wrth y chwaraewyr fod posib mai dyma'r unig gyfle gaiff rai ohonyn nhw i ennill Camp Lawn a'u bod nhw methu gadael i'r cyfleoedd yma wibio heibio.
Ychwanegodd: "Dwi erioed wedi gweld grŵp o chwaraewyr sydd mor barod ar gyfer gêm o'r fath... dwi'n gwybod bydd Iwerddon yn dod yma i sbwylio'r parti ond rydyn ni'n gwybod yn union be sydd ar gael a pa mor fawr yw'r wobr."
Roedd pryder am ffitrwydd Liam Williams wedi iddo orfod gadael y maes gydag anaf i'w ysgwydd yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban, ond mae cefnwr y Saracens yn cadw ei le.
Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel maswr unwaith eto gyda Dan Biggar yn gorfod bodloni gyda lle ar y fainc.
Mae Josh Adams, sydd wedi bod ar dân yn y gystadleuaeth eleni, yn cadw'r crys rhif 11 gyda George North yn parhau ar yr asgell arall.
Adam Beard fydd yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng ar ôl i Cory Hill dderbyn anaf i'w goes yn erbyn Lloegr.
I'r Gwyddelod bydd cyn-chwaraewr y Scarlets, Tadhg Beirne yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i Iain Henderson
Tîm Cymru
Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliott Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.
Tîm Iwerddon
Rob Kearney; Keith Earls, Garry Ringrose, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Johnny Sexton, Conor Murray; Cian Healy, Rory Best (C), Tadhg Furlong, Tadhg Beirne, James Ryan, Peter O'Mahony, Sean O'Brien, CJ Stander.
Eilyddion: Niall Scannell, Dave Kilcoyne, Andrew Porter, Quinn Roux, Jack Conan, Kieran Marmion, Jack Carty, Jordan Larmour.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019