Sut i oroesi'r 'Steddfod Cylch

  • Cyhoeddwyd

Wrth i blant ar draws Cymru baratoi at gystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd yn ystod mis Mawrth, dyma gyngor i'r rhieni sy'n mynd am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Uchelgais cystadleuwyr y Cylch ydi cyrraedd fan hyn - llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

1. Rheolwch y siom

Nage, nid eich siom chi am orfod aberthu eich Dydd Sadwrn, ond siom eich plentyn fydd mwy na thebyg ddim digon da. Hynny yw, yn llygaid y beirniad.

I rai plant, 'eisteddfod' ydi perfformio ar lwyfan o flaen cynulleidfa sy'n cynnwys mam a dad, taid a nain, ayyb... wedi'r cyfan, dyma maen nhw wedi ei weld ar y teledu a dyna sy'n digwydd mewn eisteddfod bentref lle mae pawb yn cael rhuban a chlod os ydyn nhw'n canu fel eos, neu fel brân.

Ond aderyn gwahanol ydi'r Eisteddfod Cylch: dyma'r gwcw, lle mae pawb ond y cryfaf allan o'r nyth yn reit handi ar ôl rhagbrawf ben bore o flaen beirniad mewn ystafell ddosbarth.

Gwnewch hyn yn glir o flaen llaw ac maen nhw'n siŵr o fwynhau gweddill y dydd.

2. Gwnewch eich gwaith cartref

Os ydi'r cyfeilydd yn y rhagbrawf yn troi atoch chi fel oedolyn ac yn gofyn: 'Pa gyweirnod os gwelwch yn dda?' yr ateb anghywir bob tro, yn ddi-ffael, ydi: 'Be' ydi cyweirnod?'

3. Bwyd

Mae cael hwyl yn y cantîn a stwffio llond bol o bethau melys yn rhan bwysig o'r Cylch i blant. Ond cofiwch fod hyd yn oed y gangen leol o Ferched y Wawr yn ei chael hi'n anodd pobi digon o gacennau am eisteddfod 12 awr, felly ewch â danteithion efo chi at ddiwedd y dydd.

A chofiwch fod creision yn swnllyd IAWN mewn neuadd dawel.

4. 'Spreadsheet' rhagbrofion

Bydd hyn yn lleihau'r straen o geisio bod mewn sawl lle ar yr un pryd, gan fod rhagbrofion gwahanol gystadlaethau yn digwydd ar yr un amser, mewn ystafelloedd sydd mewn ardaloedd gwahanol - a hynny mewn ysgol uwchradd anghyfarwydd.

5. Tabledi cur pen

Mae rhai yn eu llyncu cyn mynd.

6. Amseru perffaith

Mewn ciw, mae pobl fel arfer yn awchu i fynd i'r tu blaen. Fel arall ydi hi yn y 'Steddfod Cylch.

Am ryw reswm, a heb unrhyw brawf gwyddonol, mae ambell i riant yn meddwl bod pob beirniaid yn diodde' o amnesia. Yr ateb? Gwneud yn siŵr bod eu plentyn yn cystadlu yn nes at ddiwedd y gystadleuaeth fel bod perfformiad clodwiw'r epil yn aros yng nghof y beirniad - a chael llwyfan.

Felly oni bai bod rheswm dilys am fod yn hwyr - ac mae digon o rheiny (gweler pwynt pedwar er enghraifft) - peidiwch â chael eich temtio i chwarae'r gêm yma.

Cofiwch ddau beth: 1) os mai'ch plentyn chi ydi'r Bryn Terfel nesa, fydd hyd yn oed y beirniad mwyaf anghofus yn siŵr o'i gofio am flynyddoedd; 2) er mai gŵyl i blant ydi Eisteddfod yr Urdd, does dim rhaid i chi ymddwyn fel un.

7. Cerdd Dant

Os ydi gweddill y cystadleuwyr Cerdd Dant yn canu alawon gwahanol i'r un mae eich plentyn chi wedi bod yn ei ymarfer, peidiwch â phiffian chwerthin a dechrau paratoi am y Sir. Mae pawb yn canu alawon gwahanol mewn Cerdd Dant.

8. Sioned Grug

Gwglwch hi. Mae hi'n bodoli.

Disgrifiad,

Gwrandewch ar gynghorion eisteddfodol unigryw Sioned Grug o raglen Bore Cothi, Radio Cymru

9. Wal y Canlyniadau

Y lle pwysicaf yn yr adeilad heb os nac onibai. Fel gyda'r Mona Lisa yn y Louvre, mae'n hawdd dod o hyd iddi drwy chwilio am dorf gynhyrfus sy'n syllu ar wal yn geg agored.

Fan yma fydd y swyddogion yn cyhoeddi pwy sydd wedi cael llwyfan.

Mae'n debyg i'r X-Factor, ond yn llawer mwy gwaraidd. Does yna ddim cerddoriaeth ddramatig, na saib hir cyn cyhoeddi, na lens camera o flaen wyneb pawb, na Simon Cowell - dim ond darn o bapur efo llawysgrifen arni, wedi ei roi i fyny ar wal efo selotêp.

10. Cofiwch eich 'wyneb poker'

A sôn am gamerâu, ystyriwch yr Oscars. Pan maen nhw'n ffilmio'r holl actorion sydd wedi cael eu henwebu, ymateb pwy sy'n hoelio'ch sylw pan maen nhw'n agor yr amlen ac yn enwi'r enillydd? Yr enillydd? Nage siŵr. Mae'r un peth yn wir am y Cylch.

11. Strategaeth seddi

Mae'n hanfodol meddwl am hyn cyn mentro i'r brif neuadd.

Eisiau gwerthfawrogi'r cystadlu neu gael llun da o'ch plentyn? Ewch am y seddi blaen. Angen rhuthro allan yn syth ar ôl i'ch plentyn chi gystadlu? I'r cefn â chi at y rafins.

12. 'Sgidiau 'Steddfod

Ar ôl gwrando ar y degfed Cyflwyniad Dramatig mae'n bosib y cewch chi'r ysfa i sleifio allan er mwyn gwneud yn siŵr bod y byd yn dal i droi.

Mae siawns go dda mai pren fydd llawr y neuadd, felly tydi sodlau uchel nac esgidiau efo gwadn rwber ddim yn syniad da.

13. Blaengynllunio ar y slei

Ewch ar lein pan mae canlyniad y côr yn cael ei gyhoeddi a ffeindiwch westy yng Nghaerdydd ddiwedd mis Mai (fan yno mae'r Genedlaethol eleni).

Os ydi'r côr yn fuddugol, archebwch yr ystafell. Gallwch greu panig i rieni eraill drwy sibrwd y newyddion da fel mae pawb yn codi i ganu'r anthem ar ddiwedd yr Eisteddfod.

Cofiwch ganslo os nad ydi'r côr yn llwyddiannus yn y rownd nesaf, sef yr Eisteddfod Sir.

14. Gwenwch a pheidiwch â chwyno

I rai sy'n hoffi eisteddfodau mae hyn yn dod yn naturiol. I bawb arall cofiwch fod eich plentyn yn cael amser da ac eisiau bod yno. Fel arall, fyddech chi adra'n mwynhau eich Dydd Sadwrn fel pawb arall.