Casgliadau bin misol 'yn hybu ailgylchu', medd cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru a Lloegr i wagio biniau sbwriel unwaith y mis yn dweud bod yna fwy o ailgylchu a llai o dirlenwi gwastraff o ganlyniad.
Roedd yna ymateb cymysg i arbrawf Cyngor Conwy yn 2016 a gafodd ei ymestyn ym mis Medi i bob rhan o'r sir.
Mae ffigyrau'n dangos bod y cyngor wedi ailgylchu 11% yn fwy o sbwriel yn ystod tri mis olaf 2018 a thirlenwi 12% yn llai o wastraff o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2017.
Ond mae un o drigolion y sir yn dweud bod tipio anghyfreithlon ar gynnydd ers y newid i'r drefn, ac yn poeni y bydd yna fwy o broblemau drewdod ym misoedd yr haf.
Yn nhri mis cyntaf y drefn newydd fe gynyddodd maint y gwastraff cartref a gafodd ei ailgylchu i 3,522 o dunelli, o'i gymharu â 3,160 tunnell rhwng Hydref a Rhagfyr 2017.
Fe ostyngodd maint y sbwriel aeth i'w dirlenwi o 3,715 tunnell to 3,258 tunnell yn yr un cyfnod.
Dywedodd Cyngor Conwy bod trigolion "brwdfrydig eithriadol" wedi ailgylchu "mwy nag erioed o'r blaen".
"Mae ymateb y gymuned wedi bod yn ardderchog," meddai'r cynghorydd sy'n arwain ar faterion amgylcheddol, Donald Milne.
"Mae trigolion Conwy wir wedi cefnogi'r cynllun. Mae'n dda gwybod bod ymdrechion pob cartref wedi gwneud gwahaniaeth."
Yn ôl Mr Milne, mae bwyd gwastraff, sy'n cael ei drin trwy'r dechnoleg treulio anaerobig i gynhyrchu ynni a gwrtaith, wedi cynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell ymhob cartref yng Nghonwy 10 o weithiau.
'Anodd i deuluoedd'
Dywed y cyngor bod ailgylchu mwy yn creu digon o le mewn biniau iddyn nhw allu dal gwerth mis o sbwriel, ond ym marn un o drigolion Betws-yn-Rhos mae'r polisi wedi arwain at fwy o dipio anghyfreithlon.
Mae'r casgliadau misol "yn dderbyniol i rai pobl, ond mae teuluoedd wir yn ei chael hi'n anodd achos maen nhw hefo mwy o wastraff," medd Aloma Wheway, sy'n fam i ddau blentyn.
"'Dach chi'n gweld mwy o wastraff - bagia' bin llawn - wedi'u gadael ymhob man."
Dywed Ms Wheway ei bod yn cefnogi ailgylchu, ond mae'n dweud bod llawer o drigolion yn llosgi gwastraff i osgoi drewdod.
"Roedden ni'n rhan o'r cynllun peilot felly 'dan ni 'di cael casgliad unwaith y mis yn ystod yr haf, ac mae'r ogla' yn ffiaidd."
"Ma' ganddoch chi betha fel baw ci a gwastraff 'stafell 'molchi a 'dach chi ddim isio hwnna yn eich bin am fis."
Mae hi'n galw am gasgliadau bob yn ail wythnos yn achos teuluoedd ac am symleiddio'r trefniadau ailgylchu.
'Math anghywir o wastraff'
Mewn ymateb i sylwadau Ms Wheway, mae Cyngor Conwy yn cydnabod bod tipio anghyfreithlon ar gynnydd ond mae'n gwrthod awgrym mai'r casgliadau misol sydd ar fai am hynny.
Mae'n dweud bod 25% o'r gwastraff a gafodd ei dipio'n anghyfreithlon yn Nhachwedd 2018 yn wastraff cyffredinol. Mae hynny'n cymharu â 22% yn 2017.
Ychwanegodd llefarydd bod rhoi'r math anghywir o wastraff mewn biniau yn achosi iddyn nhw ogleuo.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pob cyngor sir yn penderfynu dros eu hunain sut maen nhw'n cyrraedd y nod o geisio ailgylchu 70% o'i wastraff erbyn 2024/25, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n pwysleisio bod y sefyllfa yn wahanol ymhob sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018