Seremoni arbennig i ddathlu ennill y Gamp Lawn yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd seremoni ei chynnal ym Mae Caerdydd ddydd Llun i nodi llwyddiant tîm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe lwyddodd carfan Warren Gatland i sicrhau'r Gamp Lawn gyda buddugoliaeth o 25-7 yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.

Wedi'r llwyddiant, mae cyn-gapten Cymru, Syr Gareth Edwards, wedi dweud na ddylai tîm Gatland ofni unrhyw un wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd.

Cafodd y cyhoedd eu gwahodd i gyrraedd am 17:00 gyda'r dathliadau'n dechrau am 17:30 a'r digwyddiad yn y Senedd yn dechrau am 18:00.

Dywedodd Syr Gareth Edwards, ennillodd dair Camp Lawn yn ystod ei yrfa, nad oes angen i Gymru fod ofn unrhyw dîm yng Nghwpan y Byd yn Japan.

"Dim ond y Crysau Duon sydd uwchben nhw yn y tabl... ychydig bach o lwc falle a fi'n credu bod nhw ddigon da i guro unrhyw un ar y diwrnod.

"Fel ni'n gwbod mewn gêm fel 'na - Cwpan y Byd - mae unrhyw beth yn gallu digwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru yn mwynhau'r dathlu ar ddiwedd y gêm

Ychwanegodd bod Cymru yn "haeddu [y Gamp Lawn] yn fawr iawn" wedi perfformiadau'r gyfres.

"Mae mwy nac un ffordd o fod yn llwyddiannus, a faint bynnag chi isie sgori ceisiau, dyw hynny ddim yn bosib ar brydiau - a fi'n credu o nhw'n effeithiol ofnadw dydd Sadwrn - roion nhw ddim cyfle o gwbl i Iwerddon."

Dyma oedd gêm olaf Gatland fel prif hyfforddwr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi iddo gyhoeddi ei fod yn gadael wedi Cwpan y Byd yn Japan.

Y gred yw bod hyd at 275,000 o bobl yn y brifddinas dydd Sadwrn.

'Diweddglo anhygoel'

Dywedodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, Ann Jones: "Ein braint ni yw croesawu tîm rygbi llwyddiannus Cymru yn ôl i'r Senedd... mae eu llwyddiant yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac yn gyfle i ni ymfalchïo yn noniau chwaraeon Cymru."

Bydd Ms Jones a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn croesawu'r garfan a'r tîm hyfforddi ar risiau'r Senedd ac mae gwahoddiad i'r cyhoedd gyrraedd o 17:00 ymlaen er mwyn ymuno yn y dathlu.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips: "Mae wedi bod yn bencampwriaeth wych i Gymru ac mae gorffen gyda Champ Lawn wedi bod yn ddiweddglo anhygoel.

"Mae'r garfan a'r tîm rheoli wedi ein gwneud yn genedl falch... mae'n anrhydedd y mae'r garfan yn ei haeddu, ac yn un bydd yn meddwl y byd i'r chwaraewyr," meddai.

"Yn yr un modd, mae cannoedd o unigolion ar draws rygbi Cymru wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn a dylai pawb sy'n cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel rannu perchnogaeth o'r cyflawniadau, a myfyrio gyda balchder ar ddiwrnod arbennig i'n gêm genedlaethol."