Mwy o gerbydau yn croesi Pont Hafren ers diddymu'r tollau
- Cyhoeddwyd
Mae dros 10% yn fwy o gerbydau yn croesi pontydd Hafren wedi i'r tollau ddod i ben - yn ôl ffigyrau gan Adran Brif-ffyrdd Lloegr.
Ym mis Ionawr eleni roedd 32,420 o gerbydau wedi croesi'r bont ac ym mis Chwefror roedd y nifer yn 35,457 - y ffigyrau ar gyfer yr un misoedd yn 2018 oedd 28,897 a 31,866.
Cyn i'r tollau ddod i ben ar 17 Rhagfyr roedd hi'n costio £5.60 i geir groesi'r bont i Gymru a £16.70 i gerbydau mwy.
Cafodd y tollau eu cyflwyno adeg agor y bont gyntaf gan y Frenhines yn 1966.
Mae'r data newydd yn adlewyrchu astudiaeth gan Lywodraeth y DU sy'n awgrymu y bydd 24 miliwn o geir yn croesi pontydd Hafren erbyn 2022 - 4 miliwn yn fwy na'r hyn fyddai wedi croesi petai'r tollau ddim wedi'u diddymu.
Mae pobl sy'n byw gerllaw'r bont yn awgrymu eu bod yn fwy tebygol o ymweld â Chymru gan nad oes rhaid talu i groesi.
Mae Kim Tozer yn byw yn Bradley Stoke, yn ne Sir Gaerloyw.
Dywedodd: "Ry'n yn defnyddio'r bont yn gyson nawr er mwyn ymweld â theulu.
"Mae e fel petai rhwystr meddyliol wedi diflannu gan nad ydych bellach yn gorfod ciwio i dalu ac mae Cymru wedi dod yn fan ymweld i bobl sy'n byw yn yr ardal yma."
Dywed Peter Moon sy'n arwerthwr tai yng Nghas-gwent bod llawer mwy o draffig ers i'r tollau gael eu diddymu.
Mae cael gwared â'r tollau hefyd, meddai, wedi gwella ei fusnes wrth iddo werthu eiddo rhwng £350,000 a £400,000.
Dywedodd: "Yn wreiddiol mi welon ni gynnydd yn y nifer oedd yn prynu tai am y tro cyntaf ond nawr mae tai drutach yn gwerthu gan fod modd teithio yn syth o Fryste i Gas-gwent.
"Dyw pobl sy'n mynd adref o Cheltenham a Chaerloyw ddim yn teithio ar yr A48 rhagor i osgoi'r tollau ac mae mwy yn dod yma am resymau cymdeithasol bellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018