Diwrnod olaf tollau ar bontydd Hafren

  • Cyhoeddwyd
Mae gwaith cynnal a chadw ar y pontydd yn costio £6m y flwyddynFfynhonnell y llun, MJRichardson/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith cynnal a chadw ar y pontydd yn costio £6m y flwyddyn

Dydd Sul yw'r diwrnod olaf i bobl orfod talu am groesi pontydd Hafren wrth deithio o Loegr i dde Cymru.

Fe fydd y gwaith o gael gwared ar y tollbyrth ar yr M4 a'r M48 yn dod i ben nos Sul a dydd Llun fe fydd gyrwyr yn teithio yn ddirwystr i Gymru.

Yn ôl amcangyfrifon fe allai'r newid olygu arbedion o hyd £1,400 i'r rhai sy'n teithio'n gyson.

Mae tollau, ar y ffyrdd neu ar fferi, wedi cael eu codi ers cyn cof.

Fe gafodd y fferi gyntaf i groesi ei chofnodi yn 1775.

Pan gafodd y cyntaf o''r ddwy bont Hafren ei hagor yn 1966 roedd yn costio dau swllt a chwe cheiniog i groesi.

Nawr mae'n costio £5.60 i geir groesi'r bont wrth ddod i Gymru.

Fe fydd y bont newydd yn cau am 19:00 nos Sul er mwyn cwblhau'r gwaith o waredu'r tollbyrth, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio i'r hen bont ar yr M48.

Unwaith i'r bont ailagor ar fore Llun fe fydd lonydd yr hen bont i'r gorllewin yn cael eu cau tan ddydd Mercher - er mwyn dymchwel y tollbyrth yno.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod dileu'r tollau yn golygu hwb o £100m i economi Cymru.