Academydd i herio Prifysgol Abertawe'n gyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Bjorn RoddeFfynhonnell y llun, www.arch.wales
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bjorn Rodde ei benodi i dîm pentref llesiant y brifysgol yn 2016

Mae un o'r academyddion gafodd eu gwahardd gan Brifysgol Abertawe wedi ymddiswyddo ac yn bwriadu dechrau achos cyfreithiol yn erbyn y sefydliad.

Mae'r uwch-ddarlithydd Bjorn Rodde wedi ysgrifennu at lywodraethwyr yn dweud y bydd hefyd yn hawlio arian gan y brifysgol ac unigolion oedd â rôl yn ei waharddiad.

Dywedodd Prifysgol Abertawe ei fod wastad wedi cydymffurfio â chanllawiau.

Mae Mr Rodde yn honni ei fod wedi gorfod gadael ei swydd oherwydd ymddygiad y brifysgol.

Dywedodd bod y brifysgol wedi "methu cadw at ei bolisïau a'i brosesau ei hun", gan arwain at "achosi niwed anadferadwy i fy enw da".

Pump wedi'u gwahardd

Cafodd ei wahardd ym mis Tachwedd ynghyd â phennaeth ysgol reolaeth y brifysgol, yr Athro Marc Clement, ac aelod arall o staff.

Mae BBC Cymru yn deall bod y brifysgol yn ymchwilio i'r staff wedi honiadau o gamymddwyn difrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Abertawe ei fod wastad wedi cydymffurfio â chanllawiau

Cafodd yr is-ganghellor yr Athro Richard Davies ei wahardd hefyd, ac mae yntau'n destun ymchwiliad esgeulustod difrifol.

Fe gafodd aelod arall o staff, Paul Roberts, hefyd ei wahardd wrth i'r brifysgol ymchwilio i honiadau o gamymddwyn difrifol.

Mae'r pump yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.

Ymwneud â chynllun pentref llesiant

Mae BBC Cymru'n deall bod y pryderon yn ymwneud â honiadau bod y staff dan sylw wedi elwa'n ariannol o gynllun arfaethedig £225m pentref llesiant Llanelli.

Mae Prifysgol Abertawe yn ymchwilio os fyddai'r staff wedi gwneud elw trwy dderbyn cyfranddaliadau yn y cwmni sy'n datblygu'r cynllun.

Dywedodd Mr Rodde ei fod wedi rhoi gwybod i'r brifysgol am hyn, ond nad oedd am elwa o'r sefyllfa.

Ychwanegodd, pe bai wedi gwneud elw ohono yn y dyfodol, nad oes unrhyw beth yn erbyn hyn yng nghanllawiau'r brifysgol.

Dywedodd y brifysgol nad yw'n gallu gwneud sylw ar ymddiswyddiad unigolyn, "yn enwedig os yw'n gysylltiedig ag ymchwiliad mewnol".