'Symud sioe Sanclêr i'r fferm' oherwydd rheolau diciau

  • Cyhoeddwyd
BuwchFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae sioe amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu cymryd cam anarferol er mwyn sicrhau y gall cystadlaethau gwartheg barhau er gwaetha'r cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn sgil achosion o'r diciâu.

Oherwydd nad oes modd i rai ffermwyr fynd â'u da byw i'r sioe, bydd beirniaid yn teithio i ffermydd o fewn pum milltir er mwyn beirniadu cystadlaethau yng nghategorïau'r gwartheg.

Ar dudalen Facebook Sioe Sanclêr, disgrifiodd y trefnwyr y datblygiad fel un "cyffrous".

William Griffiths o Fferm Blaengors ar gyrion Sanclêr gyflwynodd y syniad i bwyllgor y sioe, a dywedodd ei bod yn ffordd i fferm ddangos safon eu hanifeiliaid mewn cyfnod anodd.

'Ychydig o gysur'

"Gan fod sefyllfa TB mor wael yn lleol, o'n i'n gwybod bod sawl fferm fyddai'n licio arddangos yn y sioe eleni ddim yn gallu," meddai.

"Felly meddyliais, pam ddim mynd â'r beirniaid mas i'r fferm yn hytrach na mynd â'r da i'r sioe.

"Ni wedi bod ar stop am ddwy flynedd y tro yma oherwydd TB, felly dy'n ni ddim wedi gallu arddangos am y cyfnod hynny."

Disgrifiad o’r llun,

William Griffiths o Fferm Blaengors ar gyrion Sanclêr gyflwynodd y syniad i bwyllgor y sioe

Yn ôl is-gadeirydd y sioe, Robert Thomas, dyw cystadleuaeth o'r fath "ddim yn lot i fferm sy'n dioddef gyda TB, ond mae'n ychydig o gysur".

"Mae TB yn gallu tynnu fferm i lawr yn ariannol ac yn bersonol, felly pam ddim rhoi cyfle iddyn nhw ddangos eu hanifeiliaid," meddai.

"Dydyn nhw ddim yn gallu symud anifeiliaid mas o'r fferm, felly penderfynon ni fynd â'r beirniaid atyn nhw.

"Gallan nhw arddangos yn y gwahanol gategorïau fydd 'da ni, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y dydd.

"Ni'n credu mai ni yw'r sioe gyntaf yng Nghymru i dreial y peth, ac roedd e'n syniad da gan ffermwr ifanc fel William."