'Siom' am ddiffyg trwyddedau diciâu gwartheg yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua £150m wedi'i dalu i ffermwyr sydd wedi colli gwartheg drwy gynllun gwaredu TB Llywodraeth Cymru

Mae un o ffermwyr amlwg Cymru wedi mynegi siom mai dim ond unwaith eleni mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi trwydded i ddal, profi neu frechu moch daear am y diciâu (TB).

Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd cyn is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Walters ei fod yn "siomedig iawn".

Yn ei waith mae Mr Walters wedi colli stoc yn y gorffennol oherwydd y diciâu.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod yna gynlluniau gweithredu ar gyfer ffermydd sydd wedi bod o dan gyfyngiadau diciâu am 18 mis neu fwy.

Er bod fferm Brian Walter wedi bod yn glir o'r clefyd TB ers deng mlynedd, mae wedi colli un o'i wartheg yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd yr anifail ddau brawf amhendant am y diciâu, sy'n golygu bod rhaid ei difa.

Risg uchel

Dywedodd Mr Walters: "Mae'n rhaid mai bywyd gwyllt sydd ar fai, achos dwi ddim wedi prynu dim byd i mewn ers wyth mlynedd.

"Rwy'n siomedig iawn. Mae TB wedi gwneud fy mywyd yn uffern.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Walters yn dweud bod Cymru ar ei hol hi i gymharu gyda gwledydd eraill o safbwynt gwaredu'r TB

"Mae gen i ddau fab, ac mae'r ddau wedi penderfynu peidio ffermio ar ôl gweld beth ydw i wedi bod drwyddo fe.

"Rwy'n siomedig iawn. Pam fod rhaid i Gymru fod yn wahanol i Loegr, Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia... mae'r gwledydd yma yn gwneud llawer mwy i drio cael gwared â'r afiechyd.

"Mae yna ormod o foch daear, ac mae TB ynddyn nhw erioed. Mae mwy o foch daear yn golygu bod y risg o gael TB yn uchel iawn."

Wrth ymateb i ymholiad gan y Post Cyntaf, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae un drwydded i ddal, profi, brechu neu ddifa moch daear sydd wedi profi'n bositif am ddiciâu gwartheg wedi ei roi hyd yma eleni."

Cyfyngiadau

"Mae gyrroedd (herd) sydd wedi bod o dan gyfyngiadau diciâu am 18 mis neu fwy eisoes â chynlluniau gweithredu gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ôl ymgynghori gyda'r ffermwr a'u milfeddygon preifat.

"Mae'r cynlluniau gweithredu yn gosod mesurau i daclo'r clefyd yn y gyrroedd yma er mwyn iddyn nhw fedru cael statws Rhydd o'r Diciâu cyn gynted â phosib."

"Bydd mesurau ymarferol i wella bioddiogelwch ar y ffermydd yma wedi eu cynnwys yn y cynlluniau gweithredu os oes angen, ac fe fydd ffermwyr yn derbyn nifer o ddewisiadau er mwyn cyrraedd y safonau angenrheidiol."

"Mae gwella bioddiogelwch ar ffermydd er budd y busnes amaethyddol yn ei gyfanrwydd, ac yn gymorth i amddiffyn yn erbyn pob clefyd heintus, nid dim ond y diciâu."