Tân mewn fflatiau'n Abertawe 'wedi'i gynnau'n fwriadol'

  • Cyhoeddwyd
Tân AbertaweFfynhonnell y llun, Christina Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad newydd gael ei adnewyddu ar gost o £24m i fod yn lety i fyfyrwyr.

Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod yn credu fod tân mewn bloc o fflatiau yng nghanol Abertawe wedi cael ei gynnau'n fwriadol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dŷ Oldway ar Stryd y Berllan am tua 18:45 nos Sul.

Dywedodd yr heddlu bod y tân wedi achosi "difrod sylweddol" a'u bod yn ymchwilio i geisio adnabod y rheiny sy'n gyfrifol.

Roedd yr adeilad newydd gael ei adnewyddu ar gost o £24m i fod yn lety i fyfyrwyr.

Mae'r llu'n apelio i unrhyw un sydd a lluniau neu fideo o'r ardal tua amser y digwyddiad i gysylltu â nhw.