Tri chwaraewr ddim ar gael i Gymru i herio Slofacia

  • Cyhoeddwyd
Ampadu, Lawrence, VokesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Ethan Ampadu, Tom Lawrence na Sam Vokes ar gael ar gyfer yr un o'r ddwy gêm

Ni fydd Ethan Ampadu, Tom Lawrence na Sam Vokes ar gael i Gymru ar gyfer y gemau yn erbyn Trinidad a Tobago a Slofacia yr wythnos yma oherwydd anafiadau.

Yn ogystal, ni fydd chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Ond dywedodd y rheolwr Ryan Giggs y bydd Ramsey yn holliach i herio Slofacia yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Mae Cymru wedi bod yn ymarfer yng nghyfleusterau Manchester United cyn y gêm yng ngogledd Cymru nos Fercher.

Yna bydd y tîm yn teithio i'r brifddinas cyn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020 brynhawn Sul.

Ni wnaeth Ramsey gymryd rhan ym mharatoadau'r garfan ddydd Mawrth gan ei fod yn cael triniaeth am anaf.

Roedd David Brooks, Daniel James a James Lawrence yn ymarfer ar wahân i weddill y garfan ddydd Mawrth ond mae disgwyl iddyn nhw fod ar gael ar gyfer y ddwy gêm.