Arestio dyn am gyhoeddi deunydd sarhaus am Christchurch

  • Cyhoeddwyd
Heddlu ger Huda Mosque, ChristchurchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 50 o bobl eu lladd yn ninas Christchurch yn Seland Newydd wedi i ddyn ymosod ar ddau fosg

Mae dyn 31 oed o Gasnewydd wedi ei arestio wedi iddo gyhoeddi sylwadau sarhaus ar-lein a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad terfysgol yn Seland Newydd.

Cafodd ei arestio dan amheuaeth o gyhoeddi deunydd ysgrifenedig sy'n fygythiol, yn ddilornus neu'n sarhaus ac yn debygol o annog casineb hiliol.

Cafodd ei holi gan Heddlu Gwent yn dilyn cwynion gan y cyhoedd am gyhoeddiadau ar ei gyfryngau cymdeithasol, ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Lladdwyd 50 o bobl yn dilyn ymosodiad ar ddau fosg yn ninas Christchurch, yn Seland Newydd ar 15 Mawrth.

Mae dyn 28 oed o Awstralia wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi'r digwyddiad.