Criwiau wedi achub un ar safle adeiladu yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Rescue operationFfynhonnell y llun, Iwan Lewis

Mae dyn wedi ei achub gan y gwasanaethau brys ar ôl mynd yn sownd mewn twll 20 troedfedd ar safle adeiladu yn Llanelli.

Fe ddisgynnodd sgip concrit ar safle adeiladu ar Heol New Dock yn y dref.

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 17:00, gyda chriwiau tân ac achub o Lanelli a Phontardawe wedi eu galw.

'Cymorth arbenigol'

Roedd dau weithiwr wedi llwyddo i ddringo allan o'r twll ond fe ddisgynnodd y trydydd ac roedd angen cymorth y gwasanaethau brys.

Dywedodd Phil Turnell, a oedd yn bresennol ar y safle, fod gwaith yn cael ei gwblhau i uwchraddio gwaith dwr.

"Llwyddodd dau ddyn i ddringo allan yn iawn, ond fe neidiodd allan o'r ffordd a glanio'n gâs.

"Roedd y twll yn un dwfn, felly roedd angen cymorth arbenigol," meddai.

Daeth y digwyddiad i ben am tua 20:00.