Caniatâd amodol i Barc Antur £130m Cwm Afan
- Cyhoeddwyd

Fe fyddai gan y parc westy newydd gyda 100 o ystafelloedd, yn ogystal â chabanau gwyliau pren
Mae cynllun i adeiladau gwersyll antur, gwesty, sba a sinema yng Nghwm Afan wedi cael caniatâd amodol gan gynghorwyr.
Mae datblygwyr y cynllun ym Mhen-y-Bryn yng Nghroeserw, sy'n werth £130m, yn dweud y byddai'n creu 970 o swyddi ac yn denu 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn i'r ardal.
Ymhlith y gweithgareddau posib fydd yn cael eu cynnig yn y gwersyll mae dringo, rafftio dŵr, gwifrau gwibio, pwll nofio, sinema, siopau a phum bwyty.
Os fydd y caniatâd llawn yn cael ei roi, bwriad y datblygwyr ydy agor y mwyafrif o'r safle erbyn 2021.

Yn ôl y datblygwyr fe fydd modd agor y mwyafrif o'r safle erbyn 2021

Dyluniad artist o un o'r bariau yn y gwesty newydd
Yn yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i gynghorwyr, mae swyddogion cynllunio yn dweud: "Mae gan y datblygwr brofiad o godi'r cyfalaf sydd ei angen er mwyn talu am ddatblygiad o'r math hwn.
"Yn ogystal â sicrhau partneriaid fel Jaguar Land Rover, Neuman Aqua, Snowflex a Go Ape!, fe fydd pencadlys Ewropeaidd hyfforddiant Academi Goroesi Bear Grylls yn cael ei leoli ar y safle."
Ychwanegodd bod y datblygwyr "wedi sicrhau gwasanaeth cwmni hamdden Landal GreenParks - y rheolwyr mwyaf o'u bath yn Ewrop - i redeg y llety".
Daeth y swyddogion i'r casgliad "na fyddai'r datblygiad yn cael fawr o effaith ar ddiogelwch y ffyrdd a cherddwyr, llygredd na'r system carthffosiaeth" ac y byddai'r ardal gyfan yn elwa yn economaidd o gael datblygiad o'r fath.