Brooks a Fishlock yn ennill gwobrau'r Gymdeithas Bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
David Brooks a Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Naw cap rhyngwladol sydd gan David Brooks, tra bo Jess Fishlock wedi ennill dros 100

Asgellwr ifanc Bournemouth, David Brooks, a chwaraewr canol cae Lyon, Jess Fishlock, sydd wedi'u henwi fel chwaraewyr y flwyddyn yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan y Wal Goch - aelodau'r Gymdeithas Bêl-droed.

Brooks gafodd ei enwi'n chwaraewr ifanc y flwyddyn hefyd i dîm y dynion, tra mai Elise Hughes enillodd y wobr honno i dîm y merched.

Capten tîm y merched, Sophie Ingle, a seren Real Madrid, Gareth Bale oedd enillwyr gwobr y chwaraewyr, oedd yn cael ei ddewis gan garfan y ddau dîm.

Amddiffynnwr Tottenham Hotspur, Ben Davies wnaeth ennill gwobr dewis y cyfryngau.

Roedd gwobr hefyd i gyn-reolwr tîm cenedlaethol y dynion, John Toshack, wrth iddo dderbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad gydol oes i bêl-droed Cymru.