Alun Wyn Jones yn cipio gwobr chwaraewr gorau y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Jones yn gyfartal â record Gethin Jenkins (134) am ymddangosiadau mewn gemau prawf yn erbyn Iwerddon

Mae capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones wedi ei enwi fel chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Fe wnaeth clo'r Gweilch guro tri Chymro arall oedd ar y rhestr fer - Josh Adams, Liam Williams a Hadleigh Parkes.

Roedd y pedwar yn allweddol wrth i Gymru gipio'r Gamp Lawn wedi iddynt drechu Iwerddon o 25-7 yn y gêm derfynol.

Mae'r clo 33 oed bellach wedi ennill 125 cap i Gymru.

Hefyd ar y rhestr fer oedd asgellwr Lloegr Jonny May a'r blaenasgellwr Tom Curry.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Jones: "I mi fel capten mae'n gadarnhad fod y garfan wedi bod yn gwneud y pethau cywir drwy gydol yr ymgyrch."

Ychwanegodd fod derbyn y wobr yn anrhydedd mawr: "Byddai wedi bod yn ddigon i gael fy enwebu ynghyd â thri chwaraewr arall o Gymru a dau chwaraewr arbennig o Loegr, ond rwy'n hynod ddiolchgar i'r bobl sydd wedi pleidleisio."