Cymry'n ymuno mewn rali refferendwm

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cannoedd o Gymry wedi ymuno mewn rali yn Llundain yn galw am refferendwm ar delerau Brexit

Roedd cannoedd o ymgyrchwyr o Gymru yn rhan o rali enfawr yn Llundain heddiw yn galw am refferendwm arall ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl trefnwyr y rali roedd 'na filiwn o bobl wedi cymryd rhan yn yr orymdaith.

Roedd dau aelod o gabinet Llywodraeth Cymru yn rhan o'r dorf, yn ogystal â nifer o aelodau seneddol Cymreig.

Dywedodd y grŵp Cymru Dros Ewrop eu bod wedi trefnu 30 o fysiau i gludo protestwyr i'r digwyddiad yn Hyde Park.

Mae disgwyl i aelodau seneddol gynnal cyfres o bleidleisiau ar Brexit yr wythnos nesa er mwyn ceisio canfod ffordd ymlaen.

Baneri Cymru yn rali refferendwm BrexitFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl un o Gymru wedi teithio ar fysiau i Lundain i gyrmdu rhan yn y rali

Fe wnaeth un dyn gerdded 200 milltir i fynychu'r orymdaith Pleidlais y Bobl ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth ac i ymwneud â chefnogwyr Brexit.

Fe wnaeth Ed Sides ddechrau ar ei daith o Abertawe dros bythefnos yn ôl, a dywedodd ei fod wedi "cymryd yr amser i wrando yn ogystal â siarad".

Ddydd Iau ym Mrwsel mi gytunodd arweinwyr yr Undeb i ohirio Brexit tan 22 Mai os bydd Theresa May yn llwyddo i gael cefnogaeth i'w chytundeb.

Ond mae'n aneglur os bydd y Prif Weinidog yn bwrw mlaen a thrydedd bleidlais ar y cytundeb hwnnw'r wythnos nesa.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Hefin Jones

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Hefin Jones
Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan Cenric Clement-Evans

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan Cenric Clement-Evans
Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 3 gan mehhh

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 3 gan mehhh

'Refferendwm arall yn datrys dim'

Mae ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr Undeb hefyd wedi cynnal cyfres o wrthdystiadau.

Dywedodd Fred Jones, adeiladwr o Abertawe, bod dadleuon rhai pobl sydd o blaid aros yn nawddogi'r rheiny bleidleisiodd i adael.

"Dydw i ddim yn angerddol yr un ffordd na'r llall, ond rydw i wedi cael digon ar bobl yn dweud mai dim ond pobl hŷn, neu bobl dwp oedd ddim yn gwybod am beth oedden nhw'n pleidleisio oedd eisiau gadael," meddai.

"Ro'n i'n gwybod y byddai gadael yn gwneud pethau'n anodd yn y tymor byr, ond yn y pendraw yn galluogi Prydain i benderfynu dros ein hunain sut wlad dy'n ni eisiau bod."

"Ond y prif reswm dydw i ddim yn cefnogi refferendwm arall yw y bydd yn datrys dim - fe fyddwn ni'n cael yr un dadleuon ymhen tair blynedd arall."