Twyll canolfan alw REC Home Audits yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar wedi cael eu canfod yn euog yn Llys y Goron Abertawe o gynllwynio i dwyllo

Bydd tystiolaeth camerâu cylch cyfyng o staff canolfan alw yn Abertawe yn twyllo cwsmeriaid yn cael ei darlledu ar raglen X-Ray BBC Cymru nos Lun.

Datgelir hefyd i benaethiaid y cwmni wario miloedd o bunnau yng nghlybiau nos Abertawe o ganlyniad i weithredu galwadau digroeso twyllodrus.

Cafodd pedwar o gwmni REC Home Audits - Kyle Lewis, Darren Palmer, David Alford a Jason Cunliff - eu canfod yn euog o gynllwynio i dwyllo, a bydd y pedwar yn cael eu dedfrydu ym mis Ebrill eleni.

Roedd y cwmni'n ffonio cwsmeriaid posib gan gynnig boeleri "am ddim" o dan "gynllun y llywodraeth". Roeddent yn cymryd blaendal o £299 neu £399 - ond dim ond tri allan o 1,200 o gwsmeriaid gafodd foeler.

Roedd y tri a dderbyniodd foeler yn oedrannus a bu'n rhaid iddynt dalu gweddill yr arian drwy arwyddo cytundeb credyd 12 mlynedd.

Pwyso ar bobl i brynu

Roedd y camerâu cylch cyfyng a ddaeth i ddwylo Adran Safonau Masnach Abertawe wedi iddynt gynnal cyrch ar y swyddfa yn 2014 yn dangos rheolwr yn gweiddi ar ei dîm: "Be' sy'n eich gyrru?"

Mae'r tîm yn ateb: "Arian".

Mae'r lluniau sydd wedi'u gweld gan raglen X-Ray yn dangos y rheolwr yn gweiddi ymhellach: "Cytundebau - heb gytundebau does yr un ohonom yn cael ff**** arian, nac oes?"

Mae'r dystiolaeth fideo yn dangos tactegau gwerthu a oedd yn rhoi pwysau ar gwsmeriaid.

Bydd un fideo yn dangos un aelod o staff yn smalio wrth gwsmer ei fod yn cysylltu â rheolwr ynglŷn â chynnig arbennig, tra'i fod mewn gwirionedd yn smygu e-sigarennau a brolio wrth ei ffrind am y sgam yr oedd yn ei gweithredu.

Disgrifiad o’r llun,

Llawer o arian cwsmeriaid yn cael ei wario mewn clybiau ynghanol Abertawe, medd Adran Safonau Masnach y ddinas

Dywedodd Rhys Harries o Adran Safonau Masnach Cyngor Abertawe wrth X-Ray: "Roeddent yn defnyddio pob math o dechnegau i berswadio pobl ... Roeddent yn rhoi pwysau parhaus ar bobl."

Roedd y cwmni yn gwneud £50,000 yr wythnos tra'n gweithredu yn 2014.

Ychwanegodd Mr Harries: "Roedd y cyfarwyddwyr yn mynd allan ar nos Sadwrn ac yn gwario rhwng £4-5,000 ar staff ynghanol Abertawe. Ac felly dyna lle'r oedd llawer o arian cwsmeriaid yn mynd."

Yn dilyn ymchwiliad bedair blynedd ac achos yn Llys y Goron Abertawe, cafodd cyfarwyddwyr y cwmni, Lewis, Palmer ac Alford ac un o'r rheolwyr, Cunliff, eu canfod yn euog o gynllwynio i dwyllo.

Bydd y pedwar yn cael eu dedfrydu ar Ebrill 15.

Dywedodd Sonja Owen o'r Rhymni, un o'r rhai a dalodd £299 ac a gafodd ddim byd ond arolwg o'i chartref: "Rwy'n gobeithio y byddant yn cael eu dedfrydu ac y bydd eu hasedau yn cael eu cymryd oddi arnynt ac fe ddylent gael eu gorfodi i dalu arain yn ôl i bawb sydd wedi cael eu twyllo."

Bydd mwy ar y stori ar X-Ray ar BBC 1 Cymru am 7.30pm ar ddydd Llun 25 Mawrth.