Cwmni, sydd â staff yng Nghasnewydd, yn poeni am Brexit
- Cyhoeddwyd
Dywed dynes fusnes flaenllaw ei bod yn credu bod ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn atal busnesau rhag tyfu.
Yn ôl Laura Tenison, sefydlydd cwmni JoJo Maman Bebe, mae hyder cwsmeriaid ar ei isaf.
Mae'r cwmni dillad ac ategolion wedi bod yn tyfu 20% y flwyddyn ac yn gallu anfon 6,000 pecyn i gwsmeriaid bob dydd ond bellach dim ond 2,000 y dydd sy'n cael eu hanfon.
Dywedodd Ms Tenison: "Mae hi'n gyfnod anodd iawn i'r sector manwerthu.
"Tan chwe mis yn ôl roeddem yn gwneud yn dda, roedd y cwmni yn dal i dyfu ond yn ddiweddar mae diffyg hyder cwsmeriaid yn amlwg - dyw pobl ddim yn gwybod pryd maent yn debygol o weld sicrwydd yn eu swyddi eto."
Ychwanegodd Ms Tenison ei bod yn sicr mai ansicrwydd Brexit oedd ar fai gan mai'r cwmni ei hun sy'n dadansoddi y ffigyrau busnes.
"Dyw cwsmeriaid," meddai, "ddim yn prynu cymaint ac maent yn fwy gofalus wrth wario - dyw pobl ddim yn dod mewn i'r siop mor aml a does yna ddim cymaint o gwsmeriaid ar-lein chwaith."
Dywedodd fod pobl hefyd yn pryderu am wario, am gael benthyciadau ac am sefydlogrwydd eu swyddi.
Mae Ms Tenison yn cyflogi 250 o'i 1,000 o staff yng Nghasnewydd - a dywedodd nad yw'n datblygu ei busnes yn Iwerddon na'r Almaen am y tro.
Ymhlith ei pharatoadau Brexit, mae'n cludo nwyddau yn gynnar i gwsmeriaid yn Ewrop a'r UDA a phrynu arian tramor o flaen llaw.
Mae staff hefyd yn poeni am y dyfodol.
Dywedodd Dave Dabenette - a bleidleisiodd i adael yr UE - ei fod wedi blino ar y drafodaeth a'i fod yn awyddus i adael cyn gynted â phosib, a gweld Prydain yn gofalu am ei ffiniau a'i thollau ei hun.
Ychwanegodd: "Gydag amser mae modd datrys problemau ffin Iwerddon. Mae'n rhaid bod y cyfan yn hunllef i gwmnïau - mae pobl ifanc angen sefydlogrwydd."
Dywedodd gweithiwr arall, Carly Bond, ei bod hi'n nerfus am beth all ddigwydd.
"Mae'n dawel yn y ffatri", meddai, "ond hefyd dwi i fy hun ddim yn gwario cymaint.
"Dwi'n bendant yn poeni am ddyfodol fy mhlant - o ran arian, prynu cartref a swyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019