Pont Cleddau: 'Dim sicrwydd am ariannu hir dymor'

  • Cyhoeddwyd
Tollau

Mae gan gyn-arweinydd cyngor bryder am beth fydd yn digwydd i Bont Cleddau ar ôl i gytundeb rhwng y llywodraeth a'r sir ddod i ben.

Fel rhan o'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, bydd y tollau ar y bont yn cael eu diddymu am y tro cyntaf mewn 44 o flynyddoedd.

Bydd y llywodraeth yn rhoi grant blynyddol o £3m i dalu costau'r bont, ond mae'r Cynghorydd Jamie Adams yn poeni am beth fydd yn digwydd pan ddaw'r cytundeb yma i ben.

Mae hefyd yn cwestiynu pam nad yw'r llywodraeth wedi rhoi'r ffordd dan eu gofal yn barhaol - fel cefnffordd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai dyfodol y bont yn cael ei adolygu ar ddiwedd y cytundeb, ac nad oedd wedi ei wneud yn gefnffordd oherwydd yr hinsawdd ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jamie Adams bod "dim sicrwydd" am ariannu'r bont yn y dyfodol

Mae disgwyl i'r tollau ar y bont ddiflannu ddydd Iau, ychydig ddyddiau cyn y dyddiad swyddogol o 1 Ebrill.

Yn siarad gyda Newyddion 9 dywedodd Mr Adams bod "dim sicrwydd bod yr arian yn mynd i barhau yn y tymor hir".

Cwestiynodd hefyd y penderfyniad i beidio â gwneud y bont yn gefnffordd.

"Os edrychwch chi ar Ynys Môn, pontydd dros y Fenai, maen nhw'n gefnffyrdd," meddai.

"Dyna pam dwi'n credu'n gryf y dylai'r croesiad yma fod yn gefnffordd."

Ychwanegodd Mr Adams nad oedd y llywodraeth erioed wedi esbonio'r rheswm am beidio â chymryd y bont fel cefnffordd pan oedd yn arweinydd y cyngor.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cytundeb yn "gosod yn glir y cyllid o £3m y flwyddyn am 20 mlynedd, i'w adolygu ar ôl hynny i benderfynu os ydy grantiau pellach yn daladwy".

Ychwanegodd y llywodraeth bod swyddogion wedi ystyried dynodi'r bont fel cefnffordd yn 2015, ond bod y syniad wedi ei wrthod yn 2018 oherwydd yr "hinsawdd ariannol" a'r ffaith bod ffyrdd eraill oedd yn "fwy o flaenoriaeth".