Bwriad i droi hen gapel Cymreig yng Ngwynedd yn fosg
- Cyhoeddwyd
Mae cais cynllunio wedi ei wneud i droi hen gapel mewn pentref yng Ngwynedd yn fosg.
O dan y cynlluniau newydd bydd Jamia Almaarif Mosque and Meditation Centre yn cymryd rheolaeth dros Gapel Methodistaidd Moriah yn Llanbedr, ger Harlech.
Nid oes llawer o fanylion yn y cais cynllunio sydd wedi ei roi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd y cais ei roi i mewn gan Fatma Bodhee o ardal Barking yn Llundain, cyfarwyddwr mosg Jamia Almaarif.
Cafodd y capel ei sefydlu yn 1856, gyda'r adeilad yn ei ffurf bresennol yn dyddio 'nôl i 1913.
Wedi ei gynllunio gan Owen Morris Roberts o Borthmadog, cafodd ei nodi fel adeilad rhestredig Gradd II am ei edrychiad.
Mae wedi bod ar y farchnad yn ddiweddar am £250,000.
Ail mosg yng Ngwynedd?
Yn ogystal â newidiadau i'r tu mewn, mae'r cais yn sôn hefyd am newidiadau i'r tŷ capel.
Dim ond un mosg sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd, sef ym Mangor.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, fe restrodd 1,378 o bobl Gwynedd eu crefydd yn Islam - tua 1% o'r boblogaeth
Doedd neb o ward Llanbedr yn gweld eu hunain fel Mwslim.
Mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri drafod y cais dros y misoedd nesaf.