Cau ffordd wrth i heddlu arfog arestio dyn yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ardal Heol Marine ei chau am gyfnod gan yr heddlu

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau i ladd ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i ganol Llanelli.

Ar ôl cael ei arestio cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty er mwyn asesu ei gyflwr. Mae'n parhau i gael ei holi gan yr heddlu.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys i swyddogion gael eu galw am 02:00 fore Mawrth.

"Mae'r achos wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) fydd yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd traffig ei ddargyfeirio am gyfnod

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: "Rydym wedi dechrau ymchwiliad i weithredoedd Heddlu Dyfed-Powys yn ystod digwyddiad ar ôl i ergydion plastig {yr heddlu} gael eu tanio y tu allan i eiddo yn Heol Burry, Llanelli yn gynnar y bore 'ma.

"Cafodd dyn ei anafu ond ddim yn ddifrifol, ac aed ag ef i Ysbyty Tywysog Phillip gydag anaf i'w arddwrn.

"Cafodd ei arestio ar y safle. Mae ein swyddogion ar y safle yn casglu tystiolaeth."

Bwa croes

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i fwa croes yn ardal yr arestiad.

Ychwanegodd llefarydd: "Byddwn am sicrhau pobl fod digwyddiadau o'r fath yn rhai prin, ac nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.

"Rydym yn gwerthfawrogi fod ardal eang wedi ei chau ac wedi achosi peth anghyfleustra heddiw.

"Mae'r ffyrdd nawr ar agor ac rydym am ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra bod ein hymchwiliad yn parhau.

"Bydd yr heddlu yn cadw presenoldeb yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i bobl leol."

Mae'r ardal dan sylw yn agos i orsaf reilffordd Llanelli, a chafodd un o brif ffyrdd y dref, Heol Marine, ei chau gan yr heddlu.

Dywedodd un o'r trigolion wrth y BBC fore Mawrth: "O be' o' ni'n gallu ei weld roedd yr heddlu yn dechrau cyrraedd am 06:00. Roedd traffig a cherddwyr yn cael eu dargyfeirio.

"Mae'r heddlu wedi amgylchynu ardal eitha' mawr.... mae'n amhosib hyd yn oed cyrraedd y siop leol."