Ward yn Ysbyty Singleton i gau am dri mis wedi tân
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd ward ganser yn Ysbyty Singleton, Abertawe yn gorfod cau am dri mis ar ôl cael ei difrodi gan dân.
Fe wnaeth y tân nos Sul effeithio ward 12 ond ni chafodd unrhyw wardiau eraill eu heffeithio.
Bu'n rhaid i symud 36 o gleifion o'r adeilad, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y bydd cleifion yn cael eu hadleoli i ward arall sydd newydd ei hadnewyddu, ond fe fydd y newid dal yn golygu colli 16 o welyau am gyfnod.
Dywedodd Jan Worthing, Cyfarwyddwr Gwasanaethau yn Singleton: "Mae'r ysbyty yn gweithio yn ôl ei arfer heddiw diolch i waith caled ein staff ac rydym wedi gallu ymgymryd â'r holl drefniadau a llawdriniaethau oedd wedi eu gwneud o flaen llaw."
Dydd Llun bu'n rhaid canslo rhai o'r trefniadau o ganlyniad i'r ad-drefnu.
Wrth gyfeirio at y tân dywedodd Ms Worthing: "Oherwydd amgylchiadau'r digwyddiad, nid ydym yn gallu datgelu beth achosodd y tân.
"Ond mae ymchwiliad ar y cyd - gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg - wedi casglu nad oes angen cymryd unrhyw gamau diogelwch pellach."
Mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud o ganlyniad i golli 16 o welyau eu bod yn annog y cyhoedd i feddwl yn galed cyn iddynt geisio mynediad i'r Adran Frys.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gwybod o brofiad fod y gymuned leol yn gymwynasgar iawn ar adegau fel hyn, a byddwn yn gwerthfawrogi eu help drwy beidio â defnyddio'r Adran Frys ar gyfer problemau nad sy'n rhaid brys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2019