23 mlynedd o garchar i ddyn o Lanrwst am gam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
David HayesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Hayes - a fu hefyd yn byw yn Ynys Môn a Chaernarfon - ar ffo am bron i dair blynedd

Mae dyn o Lanrwst wedi cael dedfryd o 23 mlynedd o garchar am gyfres o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plant.

Cafwyd David Hayes, 40, yn euog ym mis Chwefror o 12 o droseddau yn erbyn dau blentyn dan 10 oed dros gyfnod o dair blynedd.

Bu'n rhaid cael gwarant Ewropeaidd i'w arestio yn Sbaen ym mis Gorffennaf y llynedd, lle'r oedd yn gweithio fel athro Saesneg preifat dan enw ffug ar ôl iddo fynd ar ffo yn 2015.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod y troseddau ymhlith y rhai "mwyaf dychrynllyd", gan ddweud wrth Hayes nad oedd yn gweld "unrhyw dystiolaeth o edifeirwch".

Fe ddisgrifiodd y diffynnydd fel "unigolyn eithaf annigonol sydd â golwg wyrdröedig ar fywyd", a bod ei ymddygiad "yn fwriadol a chachgïaidd".

Ffynhonnell y llun, Guardia Civil
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd heddlu Sbaen luniau o David Hayes yn cael ei arestio yn Granada

Fe wnaeth y barnwr rybuddio Hayes nad yw'n ganiataol y bydd y cael ei ryddhau ar ôl cwblhau hanner y ddedfryd, a bod yna bosibilrwydd y bydd yn treulio'r cyfnod cyfan dan glo, yn unol ag asesiad y bwrdd parôl.

Fe ddiflannodd y diffynnydd, oedd yn arfer bod yn swyddog y wasg gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor, ar ôl ei ymddangosiad llys cyntaf yn Nhachwedd 2015.

Roedd yna sawl apêl gan Heddlu Gogledd Cymru i ddod o hyd iddo, gan gynnwys ar raglen Crimewatch, ac roedd Hayes hefyd ar y rhestr o'r troseddwyr roedd yr awdurdodau yn fwyaf awyddus i'w dal yn Ewrop.

Dywedodd Ditectif Sarjant Katie Ellis, o Heddlu Gogledd Cymru, fod Hayes wedi "cymryd plentyndod y ddau blentyn oddi wrthyn nhw".

Ychwanegodd ei bod yn canmol y plant am eu "dewrder i siarad allan yn erbyn Hayes".