Arestio dyn o Fôn yn Sbaen ar amheuaeth o droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
heddlu SbaenFfynhonnell y llun, Guardia Civil
Disgrifiad o’r llun,

Mae heddlu Sbaen wedi cyhoeddi lluniau o David Daniel Hayes yn cael ei arestio

Mae dyn o Ynys Môn wnaeth ddianc ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant yn 2015 wedi cael ei arestio gan yr heddlu yn Sbaen.

Fe wnaeth David Daniel Hayes, 39 oed, ddiflannu ar ôl ymddangosiad cyntaf yn y llys yn Nhachwedd 2015.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhyddhau sawl apêl am Mr Hayes, gan gynnwys eitem ar raglen Crimewatch pan oedd pryderon ei fod wedi ffoi o'r wlad.

Mae pob llu heddlu yn y DU wedi bod yn chwilio amdano ac roedd hefyd ar y rhestr o'r troseddwyr oedd yr awdurdodau yn fwyaf awyddus i'w dal yn Ewrop.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Daniel Hayes i arestio yn Granada, Sbaen

Arestio yn Granada

Bellach mae Heddlu Sbaen wedi cadarnhau eu bod wedi arestio Mr Hayes yn ninas Granada yn ne Sbaen.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn gweithio fel athro Saesneg dan enw ffug.

Mae hefyd yn cael ei amau o gamdrin plant yn Sbaen.

Dywedodd llefarydd ar ran y Guardia Civil y byddai'n ymddangos o flaen llys ym Madrid.