Gwrthwynebu cais i ehangu ffatri dofednod yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion sy'n gwrthwynebu cynllun i ehangu ffatri dofednod yn Wrecsam wedi cael cefnogaeth eu haelodau Seneddol a Chynulliad.
Cafodd cais Maelor Food i ehangu'r gwaith ar eu safle yn y dref ei wrthod ddwywaith gan Gyngor Wrecsam.
Mae'r cwmni wedi gwneud apêl yn erbyn hynny, a bydd yr apêl yn cael ei glywed fore Mercher.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Ken Skates AC a Susan Elan Jones AS gwrdd ag ymgyrchwyr i drafod eu pryderon.
Maen nhw'n poeni y bydd y datblygiad yn creu problemau traffig ar yr A525, ac y bydd yr arogl o'r ffatri yn gwaethygu os fydd mwy na'r uchafswm presennol o 400,000 o adar yn cael eu trin yn wythnosol yn y ffatri.
Bwriad y cwmni yw dyblu'r nifer yna.
'Pryderon dealladwy'
Cafodd y safle ei agor yn 2017, ac mae Maelor Foods yn rhan o gwmni prosesu Salisbury Poultry o ganolbarth Lloegr.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant o £3.15m o'r cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd i'r safle.
Dywedodd AC De Clwyd, Ken Skates: "Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â mi gyda phryderon dealladwy am gynllun i ehangu'r gwaith yn Maelor Foods.
"Ynghyd â Chyngor Wrecsam a nifer o'm hetholwyr fe wnes i gefnogi sefydlu'r cwmni ar safle Cross Lanes pan gaeodd First Milk yno yn 2014 ac fe gollwyd 200 o swyddi lleol.
"Ond rhaid i bryderon trigolion am y cais yma gael eu cydnabod, a rhaid delio gyda nhw."
Mae Mr Skates a Ms Jones wedi nodi gwrthwynebiadau gyda Chyngor Wrecsam a hefyd wedi ysgrifennu at Arolygiaeth Gynllunio Cymru gan mai nhw fydd yn dyfarnu ar y cais.
Dywedodd AS De Clwyd, Susan Elan Jones: "Rydym yn deall pryderon trigolion ac yn cefnogi eu dadleuon.
"Rydym wedi cyflwyno'r dadleuon i gyd ac wedi gwneud popeth posib. Mae'r mater nawr yn nwylo'r archwilydd cynllunio annibynnol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2017