Her adnabod symptomau cleifion canser â chyflyrau eraill

  • Cyhoeddwyd
CanserFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cleifion canser sydd eisoes ag anhwylderau eraill yn ychwanegu at her y GIG wrth gynllunio a rhoi triniaeth ganser, yn ôl canlyniadau ymchwil newydd.

Edrychodd ymchwil elusen Macmillan ac Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Iechyd Cyhoeddus ar y nifer o bobl oedd ag anhwylderau eraill wrth iddynt dderbyn diagnosis o ganser.

Yn ôl yr ymchwil, roedd o leiaf un o bob pedwar gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru rhwng 2011 a 2015 hefyd yn byw gydag anhwylder neu salwch arall.

Mae'r cyflyrau eraill hynny yn cynnwys diabetes, dementia a chlefyd y galon.

Yn ogystal, roedd pobl â chanser sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig hefyd yn fwy tebygol o ddioddef o anhwylderau eraill.

Mae Macmillan a Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio bod anhwylderau eraill yn gallu gwneud hi'n anodd i feddygon adnabod symptomau canser a rhoi diagnosis cynnar i gleifion.

Noda'r ymchwil bod dynion yn fwy tebygol o ddioddef o gyflwr arall wrth gael diagnosis na merched.

Roedd amrywiaeth hefyd wrth edrych ar ystadegau cleifion â gwahanol fathau o ganser.

Roedd chwarter yr unigolion â chanser y coluddyn yn dioddef o salwch neu gyflwr arall difrifol wrth dderbyn diagnosis.

Nid oedd 90% o ferched â chanser y fron, nac 80% o ddynion â chanser y prostad, yn dioddef o unrhyw salwch arall wrth dderbyn diagnosis.

Fodd bynnag, mae pobl â chanser yr ysgyfaint yn fwy tebygol na phobl ag unrhyw fath arall o ganser i ddioddef o anhwylder arall wrth gael diagnosis.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Pennaeth Gwasanaethau Macmillan Cymru yw bydd yr ymchwil yn codi ymwybyddiaeth ymhlith staff meddygol

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau'r elusen yng Nghymru ei fod yn gobeithio bod yr ymchwil yn "amlygu i'r gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cynllunwyr gofal canser sawl unigolyn sydd yn byw gyda chyflwr neu salwch arall wrth gael diagnosis o ganser".

"Byddem hefyd yn annog pobl sydd â chyflwr arall eisoes i beidio ag anwybyddu unrhyw symptomau newydd sydd yn datblygu ac i siarad gyda'u meddyg teulu er mwyn derbyn cyngor," ychwanegodd.

Dywedodd Dr Ciarán Humphreys o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod yr ymchwil yn dangos "bod canlyniadau'n well i gleifion canser nad ydynt yn dioddef o gyflyrau tymor hir na'r rhai sydd yn dioddef o salwch difrifol arall".

Ychwanegodd: "Mae bod yn gorfforol heini, peidio ysmygu, yfed llai o alcohol a bwyta bwyd maethlon yn sicr yn ffyrdd o leihau'r risg o ddatblygu canser a chyflyrau tymor hir eraill, yn ogystal â gwella'r canlyniadau i'r rheiny sy'n derbyn diagnosis."