Llinellau Cyffuriau: Drama yn ceisio 'arfogi' plant
- Cyhoeddwyd
Mae drama am oblygiadau masnachu cyffuriau yn cael ei llwyfannu mewn 40 o ysgolion yn y gogledd.
Eleni, mae prosiect Cyfiawnder mewn Diwrnod yn edrych ar sut mae pobl ifanc yn medru cael eu hatynnu gan gangiau Llinellau Cyffuriau, neu County Lines.
Dyma'r term am y ffordd mae masnachwyr o ddinasoedd wedi ehangu eu busnes i ardaloedd mwy gwledig.
Theatr Clwyd ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned sy'n rhedeg y prosiect, sy'n rhoi cyfle i'r plant hefyd drafod a dod i adnabod y broses gyfiawnder.
Ar gymeriad 16 oed o'r enw Connor mae sylw'r ddrama.
"Mae'r disgyblion yn dilyn stori Connor, wrth iddo fynd drwy broses y gyfraith," meddai Emyr John, awdur y sgript a Chyswllt Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.
"Mae Connor yn cyfarfod dyn o'r enw Jonah, sy'n ei gael o i fynd â chyffuriau o gwmpas gogledd Cymru.
"Mae'n dangos y ffordd mae o, drwy bres a thrais, yn ffeindio'i hyn yn ffordd o'r gang 'ma a does 'na ddim ffordd allan."
Yn y diwedd, mae'r cymeriad yn cael ei arestio a'i ddedfrydu i 18 mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc.
'Arfogi' pobl ifanc
"Mae'n rhaid i bawb ddeall - dydy byw yn y wlad ddim yn golygu bod pobl ifanc allan o'r targed i'r bobl o'r dinasoedd mawr sy'n eu defnyddio i wneud eu troseddau drostyn nhw ac i redeg cyffuriau," meddai'r Cwnstabl John Paul Rowlands-Ralph, swyddog cymunedol ysgolion ym Meirionnydd.
"Rydan ni'n llwyfannu hwn i blant blwyddyn wyth - tua 13 oed - ond er hynny maen nhw'n dangos ochr aeddfed iawn.
"Wrth eu dysgu nhw'r oedran yna, erbyn iddyn nhw gyrraedd yr oedran lle maen nhw'n fwy tebygol o gael eu targedu... mae ganddyn nhw fwy o arfau ynddyn nhw'u hunain i ddelio 'efo'r broblem, gweld yr arwyddion a gwneud rhywbeth amdano fo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018