'Awyrgylch cyfeillgar carchar y Berwyn yn drychineb'

  • Cyhoeddwyd
HMP Berwyn prison wing showing a long corridor with closed cell doors
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Carchar y Berwyn yn 2017

Mae rhoi'r hawl i garcharorion i gloi eu celloedd eu hunain a chael mynediad i gyfrifiaduron yng ngharchar y Berwyn yn "drychineb llwyr", yn ôl adroddiad newydd.

Dywed Cymdeithas Swyddogion Carchar bod angen i staff fod yn ddiogel yn y carchar cyn y gall gweithgareddau o'r fath fod yn llwyddiannus.

Mae carcharorion wedi cael mwy o hawliau yn y carchar yn Wrecsam ers ei agor yn 2017.

Ond mae ymosodiadau ar staff wedi bod yn niferus.

Mae Gwasanaeth y Carchardai wedi tynnu sylw at adroddiad annibynnol positif ar y carchar.

'Cymryd mantais'

Mae celloedd yn y carchar categori C yn cael eu hadnabod fel "ystafelloedd", mae aden o'r carchar yn "gymuned" ac mae carcharorion yn "ddynion".

Yn y dydd mae gwarchodwyr yn gorfod curo drws cyn cael mynediad ond dyw'r polisi hwnnw ddim yn weithredol yn y nos ac mae modd ei ddileu wedi digwyddiad neu'n ystod ymchwiliad.

Yn ôl Mark Fairhurst, cadeirydd cenedlaethol y Gymdeithas Swyddogion Carchar, mae "carcharorion profiadol yn cymryd mantais o'r bwriad i greu awyrgylch cyfeillgar a dyna pam mai yng ngharchar y Berwyn y mae nifer fawr o staff yn dioddef ymosodiadau".

"Rhaid mynd nôl at wreiddiau pethau," meddai. "Rhaid i ni gael amgylchedd ddiogel, cefnogi staff a rheoli unwaith eto."

Dywedodd Mr Fairhurst fod amodau wedi gwella yn ystod y misoedd diwethaf ers i lywodraethwr newydd ddechrau.

Berwyn visitors centreFfynhonnell y llun, Nick Dann/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 2,100 o garcharorion yng ngharchar y Berwyn ond mae'n fwy na hanner gwag ar hyn o bryd

Dywedodd Andrew Neilson, cyfarwyddwr ymgyrchoedd Cynghrair Howard ar gyfer Diwygio Deddfau Cosbi: "Mae hyn yn swnio'n ffordd bositif i adeiladu perthynas dda rhwng staff a charcharorion ac os yw'n arwain at amgylchedd fwy parchus mae hynny'n beth da.

"Yr hyn sydd wrth wraidd problemau'r Berwyn yw fod y carchar yn rhy fawr.

"Er nad yw'n hanner llawn - mae nifer o broblemau parhaus ers i'r carchar agor."

Wrth ymateb fe gyfeiriodd y Gwasanaeth Carchardai at adroddiad y Bwrdd Arolygu Annibynnol y llynedd - adroddiad a oedd yn nodi bod yn y carchar "nifer o arferion da ac arloesol".