Mwy o bwerau i Heddlu De Cymru daclo troseddau cyllyll
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn mwy o bwerau i stopio a chwilo pobl ar y stryd er mwyn mynd i'r afael â throseddau â chyllyll.
Mae de Cymru yn un o saith ardal yn y DU - ynghyd â Llundain, Glannau Mersi, Manceinion, De Sir Efrog, Gorllewin Sir Efrog a Gorllewin Canolbarth Lloegr - fydd yn treialu'r pwerau newydd.
Cafodd yr ardaloedd yma eu dewis gan fod 60% o droseddau â chyllyll yn y DU yn digwydd yno.
Ond mae ymgyrchwyr wedi beirniadu'r cynllun, gan ddweud bod gweithredoedd o'r fath "ddim yn effeithiol".
Dywedodd y Prif Weinidog Theresa ei bod yn "hanfodol bod gan heddweision de Cymru'r pwerau y maen nhw eu hangen i fynd i'r afael â bygythiad cyllyll".
Pwerau dadleuol
Mae'r cynllun yn ei gwneud yn haws i ddefnyddio pwerau "adran 60", ble mae swyddogion yn gallu chwilio unrhyw un mewn ardal benodol am gyfnod er mwyn atal troseddau treisgar.
Mae gweinidogion wedi bod dan bwysau yn ddiweddar wedi i nifer y marwolaethau'n ymwneud â chyllyll gyrraedd ei lefel uchaf ar gofnod.
Mae pwerau o'r fath wedi bod yn ddadleuol ers blynyddoedd, gyda thystiolaeth eu bod yn cael eu camddefnyddio'n aml ac yn targedu pobl ddu yn anghyfartal.
Dywedodd Katrina Ffrench, prif weithredwr StopWatch, sy'n ymgyrchu yn erbyn defnydd gormodol o bwerau stopio a chwilio, bod y cynllun yn "siomedig".
"Am wleidyddiaeth mae hyn, dim achub bywydau," meddai.
'Diogelu'r gymuned'
Fe wnaeth troseddau'n ymwneud â chyllyll gynyddu 25% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2018.
Mae tua 2% o'r holl droseddau â chyllyll yn y DU yn digwydd yn ardal Heddlu De Cymru, a 3% o holl droseddau treisgar.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jon Drake y bydd eu swyddogion "yn parhau i ddefnyddio pwerau stopio a chwilio pan fo amheuaeth resymol i wneud hynny".
"Ond mae'r newidiadau'n golygu y gallwn ystyried defnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni pe bai'n helpu diogelu'r gymuned, yn enwedig rhag arfau bygythiol.
"Dim ond un elfen yn ein brwydr i fynd i'r afael â throseddau treisgar yn ne Cymru yw pwerau stopio a chwilio."
Bydd y cynllun newydd mewn grym am hyd at flwyddyn, gydag adolygiad ar ôl chwe mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018