Torcalon i'r gyrrwr Elfyn Evans yn rali Corsica
- Cyhoeddwyd
Roedd torcalon i Elfyn Evans yng nghymal olaf Pencampwriaeth Ralio'r Byd yn Corsica, wrth iddo gael pyncjar ag yntau'n edrych fel ennill y ras.
Roedd gan y gŵr 30 oed o Ddolgellau a'i gyd-yrrwr Scott Martin fantais o 11 eiliad cyn dechrau'r cymal olaf ddydd Sul.
Ond wedi iddo gael pyncjar i'w olwyn flaen ochr dde ar y cymal hwnnw, fe orffennodd yn drydydd yn y rali.
Dyma fyddai wedi bod yr ail dro yn unig i Evans ennill ras ym Mhencampwriaeth Ralio'r Byd, yn dilyn ei lwyddiant yn Rali GB Cymru yn 2017.
Mae'n golygu mai Thierry Neuville a Nicolas Gilsoul o Wlad Belg oedd yn fuddugol, gyda Sébastien Ogier a Julien Ingrassia o Ffrainc yn ail.
Llwyddodd Evans i ennill pedwar o'r 14 cymal yn y ras ar yr ynys ym Môr y Canoldir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2017