Disgwyl i barc dŵr Y Rhyl ddenu 200,000 o ymwelwyr newydd

  • Cyhoeddwyd
Water slides at the new SC2
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y parc dŵr newydd eu cyhoeddi yn 2016

Mae arweinwyr busnes a chymuned yn Y Rhyl yn gobeithio y bydd agor y parc dŵr newydd yn hwb sylweddol i'r economi lleol.

Bu'n rhaid cau canolfan yr Heulfan yn y dref bum mlynedd yn ôl oherwydd gwaith atgyweirio.

Mae'r atyniad SC2 yn rhan o gynllun gwerth miliynau o bunnau i adfywio'r dref.

Eisoes mae dau westy, tafarn ac o leiaf un tŷ bwyta wedi agor.

Yn ogystal mae trafodaethau ar y gweill i newid llif y traffig rhwng canol y dref a glan môr er mwyn annog ymwelwyr i ymestyn eu harhosiad a mynd i weld atyniadau eraill.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd yr Heulfan yn 1980

Fe glywodd cyfarfod busnes yn y dref ddydd Gwener bod cwmnïau bysiau yn dod ag oddeutu 8 miliwn o ymwelwyr i'r Rhyl yn flynyddol.

Yn ôl un aelod o'r grŵp busnes, y Cynghorydd Tony Thomas, dyw rhai ymwelwyr ddim yn teithio ymhellach na chanol y dref am y gallai "teithio i lan môr fod yn fwy hwylus".

Ychwanegodd bod disgwyl i'r parc dŵr newydd ar y prom ddenu 200,000 o ymwelwyr newydd a'r nod oedd eu hannog i fynd i weld atyniadau eraill hefyd.

Yn ei anterth roedd yr Heulfan yn denu 4,000 o ymwelwyr y dydd, ac wedi'i leoli yn y ganolfan roedd parc syrffio dan do cyntaf Ewrop.

'Heulfan y 21ain ganrif'

Ym Mai 2016, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych gynlluniau i ddymchwel y ganolfan a chodi parc dŵr newydd gan ddweud mai hwn oedd "darn cyntaf yn y jig-so adfywiad" yn Y Rhyl.

Bu nifer yn ymgyrchu i gadw'r atyniad wrth iddynt deimlo bod rhan o'u plentyndod yn diflannu.

Dywedodd yr hanesydd lleol Colin Jones: "Rwy'n falch ein bod wedi cael atyniad arall ond dwi'n poeni braidd am y gost.

"Dwi'n gobeithio na fyddwn yn creu problemau ariannol i ni'n hunain yn y dyfodol."

Dywedodd Maer Y Rhyl, Win Mullen-James, ei bod hi'n credu y bydd y parc dŵr yn "gatalydd" positif.

"Rydyn yn gobeithio am bethau mawr gan SC2, mae ei werthoedd yn debyg i'r Heulfan ond rydyn wedi ei symud i'r 21ain ganrif."