Ymdrech i ddenu cwmniau datblygu i adfywio y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych mae nifer o ddatblygwyr wedi dangos diddordeb mewn cynlluniau i ailddatblygu cyfleusterau hamdden yn y Rhyl.
Nod y cyngor yw gwella adnoddau o safle'r Marine Lake ar hyd y promenâd i'r pegwn dwyreiniol.
Bydd disgwyl i'r cwmnïau datblygu ddod o hyd i gyllid eu hunain i dalu am ailddatblygu cyfleusterau sy'n cynnwys canolfan yr Heulfan.
Dywed y cyngor eu bod yn fodlon ystyried unrhyw gynigion ar dir sy'n berchen iddynt.
Bu'n rhaid cau canolfan yr Heulfan yn gynharach eleni oherwydd ystyriaethau ariannol.
Roedd y safle, ynghyd â chanolfan Nova ym Mhrestatyn a Chanolfan Bowlio Gogledd Cymru yn arfer cael eu rheoli gan ymddiriedolaeth Clwyd Leisure.
'Dim digon o arian'
Eleni penderfynodd Clwyd Leisure nad oeddynt yn derbyn digon o arian i gadw'r canolfannau ar agor.
Gwnaeth y penderfyniad ar ôl i'r cyngor sir ddweud eu bod wedi penderfynu peidio â chynnig cymorth ariannol o £200,00 ar gyfer 2014/15.
Dydd Gwener yma yw'r diwrnod olaf i gwmnïau gynnig syniadau er mwyn datblygu'r canolfannau.
Yn ddiweddar fe gafodd nifer o adeiladau eu dymchwel fel rhan o gynllun gwerth miliynau i geisio adfywio'r dref.
A'r llynedd fe gafodd pont newydd gwerth £4.3 miliwn, i gerddwyr a beicwyr, ei hagor yn harbwr y Rhyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd27 Mai 2014
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2014