Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad honedig ar fws nos

  • Cyhoeddwyd
Bysus ArrivaFfynhonnell y llun, PA

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad honedig ar fws nos, wythnosau wedi i drefnwyr atal teithiau yn sgil cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ddechrau Mawrth fe gyhoeddodd cwmni Arriva fwriad i roi'r gorau ar y gwasanaeth 3B rhwng Pwllheli a Blaenau Ffestiniog ar nosweithiau Sadwrn rhwng 21:35 a 22:51 wedi i sawl achos amharu ar ddiogelwch teithwyr.

Mae'r ymchwiliad heddlu'n ymwneud â digwyddiad ar yr un gwasanaeth nos Sadwrn diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Arriva: "Mae diogelwch ein cwsmeriaid ac ein gyrwyr o'r pwys mwyaf i ni a dydyn ni ddim yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Rydym yn edrych i'r sefyllfa ar hyn o bryd ac fe fyddan ni'n helpu'r heddlu gydag unrhyw ymchwiliad."

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn cynnal ymchwiliad a bod neb wedi ei arestio.