Bennett yn wynebu cael ei ddiarddel
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol yn wynebu cael ei wahardd heb dâl am wythnos am dorri rheolau safonau.
Roedd Gareth Bennett wedi gwneud clip ar gyfer YouTube y llynedd yn gwawdio yr AC Llafur Joyce Watson.
Yn y clip, oedd yn dangos llun o ben Ms Watson ar ben llun o fenyw'n gweithio mewn bar mewn ffrog â gwddf isel, fe wnaeth Mr Bennett gynnwys sylwadau difrïol amdani
Dywed Pwyllgor Safonau'r Cynulliad nad oedd gweithredodd Mr Bennett yn cyd-fynd â'r safonau sydd i'w disgwyl.
Gwrthododd llefarydd ar ran UKIP Cymru a gwneud sylw.
Fe wnaeth Mr Bennett gyhoeddi'r clip fis Mai diwethaf gan ymosod ar Joyce Watson am gyfeirio at ACau UKIP fel "cŵn cynddeiriog" mewn dadl flaenorol yn y Cynulliad.
Daw adroddiad y Pwyllgor ar ôl i ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon, Douglas Bain, benderfynu fod y fideo yn iselhau yr AC Llafur, ac yn ymosodiad personol.
Cafodd Mr Bain ei benodi ar ôl i Gomisiynydd y Cynulliad, Sir Roderick Evans, yn wreiddiol wrthod ymchwilio i'r fideo, gan ddweud nad oedd yn rhywiaethol.
Ond cafodd y penderfyniad hwnnw, ei feirniadu gan ACau Llafur a'r pleidiau eraill.
Penderfynodd Sir Roderick ail edrych ar y mater, ond gan eithrio ei hun o'r ymchwiliad.
Mae adroddiad y Pwyllgor Safonau, sydd wedi dod i law y BBC, yn dweud fod Mr Bennett wedi cerdded allan o'r cyfarfod gwreiddiol gyda Mr Bain.
Bu'n rhaid i'r Comisiynydd ddefnyddio rheol oedd yn mynnu fod Mr Bennett yn cael ei gyfweld eto neu byddai'n torri'r gyfraith.
Beth nesaf?
Roedd y gost o gynnal ail gyfweliad yn £500.
Mae'r Pwyllgor Safonau am i Mr Bennett dalu'r ffi, ac maen nhw hefyd am ei ddiarddel fel aelod o'r Pwyllgor Safonau.
Fe fydd yn rhaid i argymhellion y pwyllgor gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, ac mae disgwyl i ACau drafod y mater ddydd Mercher.
Mr Bennett fydd yr ail AC o UKIP i gael ei wahardd o'r Cynulliad, gyda chyn aelod UKIP Michelle Brown yn cael ei cheryddu y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018