Cosbi Gareth Bennett am swyddfa na chafodd ei hagor

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Bennett yn gorfod rhoi £2,477 o'i gyflog bob mis i ad-dalu'r costau

Bydd Aelod Cynulliad yn wynebu cwtogiad yn ei gyflog wedi iddo wario bron i £10,000 o arian cyhoeddus ar swyddfa na chafodd ei hagor.

Arwyddodd Gareth Bennett, arweinydd UKIP yn y Cynulliad, prydles yr adeilad, er gwaethaf cyngor i beidio â gwneud.

Mae Pwyllgor Safonau'r Cynulliad wedi argymell i Mr Bennett dderbyn cerydd.

Bydd yn colli £2,477 o'i gyflog yn flynyddol er mwyn talu'r ddyled - ond nid yw'n wynebu'r gosb fwyaf difrifol, sef cael ei ddiarddel.

Mae hyn yn golygu bod y swyddfa etholiadol - a oedd fod i gael ei sefydlu yn hen glwb nos Angharad's ym Mhontypridd - wedi costio £7,009 i'r AC.

Talodd Mr Bennett gwerth £4,533 o gostau cyfreithiol i orffen y brydles am yr adeilad, a oedd yn llaith, heb drydan ac angen cael ei atgyweirio.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bennett eisiau agor swyddfa ar hen safle clwb nos Angharad's ym Mhontypridd

Daeth penderfyniad y pwyllgor wedi i ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans, ddangos bod Mr Bennett wedi anwybyddu cyngor ei gyfreithiwr wrth arwyddo'r brydles heb arolwg o'r adeilad na chwaith ei weld ei hun.

Roedd y brydles i fod para tan Ebrill 2021, ond cafodd ei diddymu ym Medi 2017 wedi iddi ddod i'r amlwg bod cost atgyweirio'r adeilad yn uwch na'r lwfansau ar gael i aelodau cynulliad.

Roedd UKIP wedi pryderu byddai Mr Bennett yn cael ei wahardd o'r Cynulliad am gyfnod yn ddi-dâl, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn materion disgyblu tebyg eleni.

Ond, cytunodd y pwyllgor rhyngbleidiol y dylai Mr Bennett dderbyn cerydd swyddogol yn unig.

Yn ôl y pwyllgor, roedd Mr Bennett wedi torri côd ymddygiad drwy gam-ddefnyddio adnoddau'r Cynulliad, a dwyn anfri ar y Cynulliad.

Cafodd cyfanswm o £9,883 o arian trethdalwyr ei wario ar yr adeilad gan Mr Bennett, gan gynnwys £2,477 ar brynu deunydd adeiladu, wedi i'r brydles gael ei arwyddo ym mis Mawrth 2017.

Nid oedd y comisiynydd wedi llwyddo i ddarganfod yn union beth ddigwyddodd i'r deunydd adeiladu, a fydd hefyd yn cael ei ad-dalu gan yr hyn sy'n cael ei dorri o gyflog Mr Bennett.

Mewn adroddiad cafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener, dywedodd Syr Roderick i Mr Bennett dorri cod ymddygiad y Cynulliad.

"Wrth arwyddo prydles heb sicrhau bod yr arolygon a'r amcangyfrifon angenrheidiol wedi cael eu gwneud, gan fynd yn groes i gyngor proffesiynol, a oedd yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus, roedd yn ddiofal," meddai.

Rheolwr ymgyrchu a chyn-bennaeth swyddfa Mr Bennett oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i swyddfa addas - ac nid yw'n cael ei enwi yn yr adroddiad ac nid yw bellach yn gweithio i'r Cynulliad.

Yn ôl Syr Roderick, nid oedd yn amau i Mr Bennett elwa'n bersonol o'r arian cyhoeddus.

Cynigiodd Mr Bennett i ad-dalu'r arian, a chynghorodd i'r Cynulliad i gwtogi ei gyflog.

Ymddiheurodd Mr Bennett, gan ddweud: "Mae hyn yn hynod anffodus a hoffwn gynnig fy ymddiheuriadau am gyfanswm y gost yn ôl y Comisiwn o arian cyhoeddus yn sgil cyfres o ddigwyddiadau anffodus."