BBC, Channel 4 ac S4C am wella teledu ffeithiol Cymru

  • Cyhoeddwyd
BBC/Channel 4/S4CFfynhonnell y llun, BBC/Channel 4/S4C

Mae BBC Cymru, Channel 4 ac S4C wedi dod at ei gilydd mewn ymgais i dyfu cynhyrchu teledu ffeithiol yng Nghymru.

Bydd rhaglen hyfforddi newydd - Llwybr Carlam Ffeithiol Cymru - yn cael ei lansio gan y tri darlledwr yn nes ymlaen eleni.

Bydd yn darparu datblygiad a hyfforddiant wedi'u teilwra i unigolion sy'n "meddu ar botensial gwirioneddol" i fod yn gynhyrchwyr cyfresi yn y dyfodol, meddai'r darlledwyr.

Cafodd y cynllun newydd ei gyhoeddi yn y Confensiwn Dinasoedd Creadigol, sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Yn ei flwyddyn gyntaf, bydd y cynllun yn anelu at hyfforddi a datblygu chwe chynhyrchydd cyfres neu redwr sioe newydd yng Nghymru.

Mae'r rhaglen wedi cael ei dylunio drwy ymgynghori ag amrywiaeth o gynhyrchwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru.

Caiff pecyn hyfforddi pwrpasol ei deilwra i bob unigolyn - gan gynnwys lleoliadau cynhyrchu, hyfforddiant, mentora a chyfleoedd i weithio ochr yn ochr â thimau comisiynu'r darlledwyr.

'Hwb enfawr'

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: "Mae pawb yn gwybod bod Cymru yn un o'r prif leoliadau am gynhyrchiadau drama erbyn hyn.

"Ond mae gan bob darlledwr gynlluniau mawr ar gyfer rhaglenni ffeithiol hefyd - ac rydyn ni am weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod Cymru'n barod i fodloni'r galw cynyddol am gynhyrchu ffeithiol o'r radd flaenaf."

Ychwanegodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C bod gan y sianel "ymrwymiad hirdymor i raglenni ffeithiol yng Nghymru".

Yn ôl Deborah Dunnett, Rheolwr Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4, bydd y bartneriaeth yn rhoi "hwb enfawr i hyfforddiant yn y sector ffeithiol a datblygu'r genhedlaeth nesaf o redwyr sioeau ffeithiol yng Nghymru".