Methiannau 'anghredadwy' cyn i ddynes ladd ei hun

  • Cyhoeddwyd
Claire Greaves

Roedd methiannau "anghredadwy" yng ngofal dynes laddodd ei hun mewn ysbyty iechyd meddwl, yn ôl ei rhieni.

Roedd Claire Greaves o Bont-y-pŵl yn glaf yn Ysbyty Cygnet yn Coventry.

Daeth cwest i'r canlyniad bod cyfres o fethiannau wedi cyfrannu at ei marwolaeth, gan gofnodi rheithfarn agored.

Mae Ysbyty Cygnet yn dweud bod "nifer o fesurau" wedi eu gweithredu i fynd i'r afael â'r "canfyddiadau allweddol".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, wnaeth gomisiynu Cygnet i ofalu am Claire, ei fod yn adolygu lleoliadau i unigolion ag anghenion cymhleth.

'Risg uchel o hunan-anafu'

Roedd Claire yn ymgyrchydd iechyd meddwl ac yn awdur. Bu'n dioddef gydag anorecsia ac anhwylder personoliaeth ers yn ifanc.

Cafodd ei symud o Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni i Cygnet - dros 100 milltir o'i chartref - yn 2017.

Ar y pryd roedd wedi trydar nad oedd eisiau bod mor bell o'i chartref, ond mae ei rhieni yn dweud mai dyma'r unig ysbyty oedd ar gael fyddai'n gallu delio gyda'i salwch.

Disgrifiad o’r llun,

Colin a Debbie Greaves - rhieni Claire

Er fod Colin a Debbie Greaves yn "weddol bositif" am y sefyllfa i ddechrau, daethon nhw i bryderu am lefelau staffio'r ysbyty a diffyg mynediad i driniaethau i Claire.

Cafodd Claire ei gwahanu am gyfnod hir gan yr ysbyty, ac fe gafodd ei rhieni wybod na fyddai modd ymweld â hi am sawl wythnos.

Mae Mr Greaves yn dweud i Claire ffonio ym mis Ionawr 2018 i ddisgrifio'r amodau roedd hi wedi bod yn byw ynddyn nhw.

"Dywedodd bod dim dodrefn yn yr ystafell, bod ei matres yn cael ei gario i mewn gyda'r nos iddi gysgu arno ac yna'n cael ei dynnu allan eto," meddai Mr Greaves.

"Dywedodd hefyd bod diffyg cefnogaeth i'w hylendid pan oedd hi i mewn yna."

Roedd rhieni Claire yn y broses o'i symud i ysbyty agosach i adref pan fuodd farw.

Methiannau 'brawychus'

Fe wnaeth rheithgor y cwest ddod i ganlyniad "agored", ac ni wnaethon nhw benderfynu ei fod yn achos o hunanladdiad.

Roedd Claire wedi ei hasesu a'i dynodi'n risg uchel o hunan-anafu neu hunanladdiad rhwng 17:00 a 18:00 bob dydd.

Ond roedd hi wedi gallu cael gafael ar ddarn o ffabrig oedd wedi ei adael y tu allan i'w hystafell a defnyddio hwnnw i ladd ei hun pan oedd hi ar ei phen ei hun yn ei hystafell.

Bu farw ychydig oriau'n ddiweddarach mewn ysbyty cyffredinol.

Daeth rheithgor y cwest i'r canlyniad bod:

  • Cael ei gwahanu am gyfnod hirdymor wedi cyfrannu at ddirywiad yn iechyd meddwl Claire;

  • Lefelau staffio "yn debygol wedi achosi neu gyfrannu at" ei marwolaeth;

  • Methiant i gynyddu gwyliadwraeth er bod Claire wedi ceisio anafu ei hun sawl tro cyn ei marwolaeth;

  • Petai "staffio digonol" yna byddai cynllun gofal Claire wedi cael ei ddilyn a byddai goruchwyliaeth i'r cyfnod rhwng 17:00 a 18:00;

  • Bod methiant drwy ganiatáu i Claire fod ar ei phen ei hun yn ei hystafell cyn ei marwolaeth - oedd yn mynd yn erbyn ei chynllun gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Claire yn ymgyrchu ynghylch iechyd meddwl, ac roedd hi'n rhannu ei phrofiadau ar ei blog

Dywedodd Mr Greaves wrth raglen Wales Live bod y methiannau yn "eithaf brawychus".

"Mae'n anghredadwy bod hynny'n gallu digwydd, bod nhw'n methu mynd rownd wardiau, bod nhw'n gwneud newidiadau heb wneud yr asesiad risg cywir, bod nhw'n anwybyddu cynlluniau gofal."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i chi gredu bod y gofal yna, ei fod yn cefnogi ac yn mynd i helpu.

"Ond y gwir ydy bod e ddim, ac yn ogystal â'r golled chi'n teimlo'n euog ar yr un pryd."

'Dywedwch rywbeth'

Galwodd ar unrhyw un sydd â phryder am ofal rhywun agos i weithredu.

"Peidiwch cario 'mlaen a meddwl bod pethau'n mynd i wella," meddai Mr Greaves.

"Os oes gyda chi bryder dywedwch rywbeth yn gynt."

Mae Wales Live wedi darganfod bod pryderon am lefelau staffio yn Cygnet cyn marwolaeth Claire.

Daeth Y Comisiwn Ansawdd Gofal i'r canlyniad bod recriwtio staff yno'n broblem, a bod llawer o staff yn gadael yr ysbyty.

Daeth y comisiwn o hyd i ddiffygion mewn hyfforddi a goruchwylio staff, a dywedodd cleifion bod diffyg cysondeb staffio wedi gwneud iddyn nhw "deimlo'n anniogel ar y wardiau".

Pum mis wedi marwolaeth Claire daeth ymchwiliad arall i'r canlyniad bod staffio yn dal i fod yn broblem, gyda phryderon am os oedd lefelau staffio yn "ddigonol i ddelio â gofynion cleifion".

Lleihau goruchwyliaeth yn 'aneglur'

Dywedodd adroddiad y comisiwn nad oedd 61% o staff yn gyfforddus gyda llwythi gwaith dyddiol, a dim ond 49% oedd yn teimlo bod digon o staff i wneud eu gwaith yn iawn.

Mae adroddiad mewnol Cygnet i farwolaeth Claire yn dweud mai'r "prif achos" oedd ei bod hi "wedi gallu cael deunydd gan ddefnyddiwr arall yn y gwasanaeth" a bod hynny heb ei weld gan staff.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod llai o oruchwyliaeth o Claire yn y diwrnodau cyn ei marwolaeth, ond bod y rheswm am hyn yn "aneglur".

Mae Mr a Mrs Greaves yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn ymddiheuriad nac unrhyw gyfathrebiad gan Cygnet ers y cwest.

Dywedodd llefarydd ar ran Cygnet Health Care: "Rydym yn drist ofnadwy wedi marwolaeth Claire yn Chwefror 2018 ac rydym yn parhau i estyn ein cydymdeimlad at ei theulu.

"Fe wnaeth Cygnet gydfynd yn llawn gyda'r ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth Claire a nodi'r argymhellion gafodd eu gwneud yn y cwest.

"Rydym eisoes wedi gweithredu nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r canfyddiadau allweddol a byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio'n llawn gyda'r holl argymhellion.

"Fel rhan o'n dyletswydd o ofal a'n hymrwymiad i barchu cyfrinachedd y bobl rydyn ni'n eu cefnogi, nid ydym yn gallu gwneud sylw ar unigolyn.

"Mae diogelwch y bobl rydyn ni'n eu cefnogi bob tro yn flaenoriaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Hoffai'r bwrdd iechyd gynnig ein cydymdeimlad i deulu Ms Greaves.

"Rydym wedi cwblhau adolygiad llawn o rôl y bwrdd mewn comisiynu gofal Ms Greaves yn Ysbyty Cygnet ac rydym yn gweithredu nifer o argymhellion i adolygu lleoliadau gofal i unigolion gydag anghenion cymhleth."

Wales Live: Dydd Mercher am 22:30 ar BBC1 Cymru.