Llys yn cael dynes yn euog o gam-drin bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 42 oed o Wrecsam wedi ei chael yn euog o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn bachgen ifanc.
Roedd Miranda Parry wedi gwadu 10 o gyhuddiadau - saith o ymosod yn anweddus, dau o ymddwyn yn anweddus ac un o greulondeb yn erbyn plentyn.
Fe gymerodd y rheithgor yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug llai na dwy awr i wneud eu dyfarniad.
Dywedodd y barnwr y byddai'n gohirio dedfrydu er mwyn derbyn adroddiadau seiciatrig, ond ei fod "yn amlwg ystyried dedfryd o garchar".
Roedd y cyhuddiadau'n dyddio'n ôl i 2000-01 pan roedd y diffynnydd yn ei 20au cynnar.
Mewn fideo a gafodd ei ddangos i'r llys o gyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y dioddefwr ei fod "yn dal i deimlo cywilydd ynghylch y peth".
Yn ôl yr erlyniad roedd Parry wedi cyffwrdd yn y bachgen yn anweddus a'i orfodi yntau i gyffwrdd ynddi hi.
Roedd yna honiad hefyd ei bod wedi ymosod yn anweddus arno ar un achlysur arall gyda chwistrell ar ôl dweud bod angen iddo gymryd ei feddyginiaeth.
Mynnodd y diffynnydd ei bod wastad wedi trin y bachgen yn "dda", gan fynd ag o i'r siopau a phrynu melysion a chylchgronnau iddo.
Gwadodd ei bod wedi ei gam-drin, na'i fwlio na'i orfodi i sefyll am oriau yng nghornel ystafell, gan ddweud wrth y llys: "Dydw i erioed wedi bod yn annifyr tuag ato."
Roedd y bachgen wedi dweud wrth ei fam ei fod yn cael ei gam-drin, ac fe gafodd yr achos i gyfeirio at wasanaethau cymdeithasol, ond dim ond ar ôl iddo fynd at yr heddlu yn 2017 y cafodd Parry ei harestio.
Roedd y dioddefwr wedi ailadrodd yr honiadau i'r awdurdodau ar sawl achlysur cyn hynny.
Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi rhoi'r ateb "no comment" i gwestiynau'r heddlu.