QC i osod rheolau newydd i ymchwiliad Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Bydd rheolau newydd yn cael eu gosod ar gyfer ymchwiliad annibynnol i ddiswyddiad y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant.
Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw ddyddiau ar ôl i'r prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ei ddiswyddo.
Roedd Mr Sargeant wedi ei gyhuddo o gamymddwyn rhywiol - cyhuddiadau roedd yn eu gwadu.
Cyhoeddodd Mr Jones y byddai ymchwiliad dan arweiniad QC, ond penderfynodd yr Uchel Lys ei fod wedi ymddwyn yn anghyfreithlon wrth benderfynu sut y byddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Gweddw Mr Sargeant, Bernie, wnaeth gyflwyno'r her gyfreithiol.
Dywedodd olynydd Mr Jones fel prif weinidog, Mark Drakeford, y byddai pennaeth adran cyfraith Llywodraeth y DU, Jonathan Jones QC, yn ystyried sut y byddai'r ymchwiliad yn cael ei redeg.
Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai ymchwiliad i os cafodd newyddion am y diswyddiad ei ryddhau i'r wasg yn cael ei gyhoeddi ar ôl i gwest Mr Sargeant orffen.
Cafodd y cwest ei ohirio ym mis Tachwedd wedi wythnos o dystiolaeth.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi galw am gyhoeddi'r adroddiad ar ryddhau gwybodaeth i'r wasg ar unwaith.
Dywedodd Paul Davies AC ei bod yn "hanfodol" bod aelodau yn cael craffu ar waith y cyn-brif weinidog a'i dîm.
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi croesawu'r penderfyniad i gyhoeddi'r adroddiad ar ryddhau gwybodaeth.
Ond dywedodd Adam Price AC bod yr oedi yn "ddiangen".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019