Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Braintree
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi taro'n ôl wedi sawl colled ddiweddar ar ôl curo Braintree 3-1 ar y Cae Ras.
Cyn wynebu'r tîm sydd eisoes wedi colli ei le yn y gynghrair, roedd tîm Bryan Hughes wedi colli pedair gêm allan o bump.
Roedd yna ergyd pan fu'n rhaid i Jake Lawlor adael y cae gydag anag wedi 10 munud, ond yn fuan wedi hynny fe roedden nhw am y blaen diolch i gôl gan Bobby Grant.
Llwyddodd Korrey Henry i unioni'r sgôr cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Ond fe sgoriodd Shaun Pearson ail gôl i'r tîm cartref wedi'r egwyl ac fe wnaeth y drydedd - peniad Akil Wright o gic gornel - sicrhau'r pwyntiau.
Mae Wrecsam yn parhau yn y pedwerydd safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2019