Tri wedi'u hanafu'n ddifrifol wedi i gar droi drosodd
- Cyhoeddwyd

Y tryc yn cael ei symud wedi'r gwrthdrawiad
Mae tri dyn wedi cael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn yr oriau mân yn Sir Caerffili wedi iddyn nhw fethu â stopio yn gynharach ar gais yr heddlu
Mae'r tri wedi eu cludo i'r ysbyty ac mae'r brif ffordd rhwng Casnewydd a Chaerffili ar gau.
Roedd gyrrwr Mitsubishi L200 gwyn wedi methu â stopio ar ôl i'r heddlu ofyn iddyn nhw wneud hynny am 04:00 fore Sadwrn yn ardal Adamstown, Caerdydd.
Cafwyd hyd i'r tryc a'i ben i lawr wedi gwrthdrawiad ar yr A468 ger Trethomas.
Mae'r dynion wedi eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd gydag anafiadau sy'n ddifrifol ond ddim yn peryglu bywyd.

Roedd rhan o'r brif ffordd rhwng Casnewydd a Chaerffili ar gau am gyfnod wedi'r digwyddiad
Tri wedi'u hanafu wedi i gar droi drosodd
Dywed Heddlu Gwent bod y tryc wedi ei weld yn teithio ar gyflymder ar yr A48 allan o Gaerdydd cyn y gwrthdrawiad un cerbyd tua 05:30 ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd llefarydd bod y dynion yn eu helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad.
Roedd Ffordd Casnewydd rhwng Trethomas a Machen ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod wedi'r digwyddiad rhwng cyffyrdd Ridgeway a Waterloo.
Roedd yna gyngor i yrwyr osgoi'r ardal tan i'r ffordd ailagor ac fe wnaeth y sefyllfa effeithio ar wasanaethau bws rhwng Casnewydd a Chaerffili.