Clwb golff hynaf Caerdydd yn penodi capten benywaidd

  • Cyhoeddwyd
Michelle GriffithsFfynhonnell y llun, Michelle Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michelle Griffiths bod "agweddau yn newid" tuag at ferched mewn golff

Mae clwb golff yng Nghaerdydd wedi penodi merch fel capten am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 1902.

Bydd Michelle Griffiths yn cychwyn yn ei rôl yng Nghlwb Golff Radur ym mis Ionawr 2020.

Ar hyn o bryd mae'n is-gapten ac yn bennaeth ar y pwyllgor cymdeithasol.

Dywedodd Ms Griffiths - sydd wedi bod yn chwarae ers tua 14 mlynedd ac sydd â handicap o 18 - ei bod yn "fraint tu hwnt i eiriau" i gael y swydd.

"Mae agweddau yn newid tuag at ferched mewn golff o'r diwedd," meddai.

"Mae'r tîm rheoli yn Radur yn actif iawn yn gweithio i annog merched a'r ieuenctid. Mae ffordd i fynd eto ond rwy'n credu ein bod ni'n symud yn y cyfeiriad iawn."

'Rhaid i golff newid'

Dywedodd Stuart Finlay, rheolwr y clwb, fod hyn yn "benodiad arwyddocaol iawn" yn eu hanes.

"Mae'r diwydiant wedi cydnabod bod yn rhaid iddo newid er mwyn denu mwy o fenywod i mewn i golff," meddai.

"Mae golff wedi bod yn gamp sy'n cael ei dominyddu gan ddynion ers nifer o flynyddoedd, ond mae cyflwyno'r siarter merched mewn golff ynghyd ag ymdrechion y cyrff llywodraethu i ddatblygu rhaglenni dechreuwyr yng Nghymru yn cael effaith.

"O safbwynt llywodraethu, fe all cynnwys mwy o fenywod ar lefel pwyllgor helpu clwb i wella a darparu craffter busnes gwerthfawr.

"Mae gwaith i'w wneud o hyd ond mae'r clwb wedi ymrwymo i ddatblygu cyfranogiad merched mewn golff sy'n dechrau gyda phenodiad Michelle yn fy marn i."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y clwb - yr hynaf yng Nghaerdydd - ei sefydlu yn 1902

Ychwanegodd: "Nid ydym bellach yn byw mewn cymdeithas lle mae gwahaniaethu ar unrhyw ffurf yn dderbyniol.

"Mae golff merched, yn ôl ymchwil, yn farchnad dwf mawr a bydd cael mwy o fenywod ar lefel bwrdd yn cael effaith gadarnhaol ar y busnes."

Mae capten y clwb yn penodi is-gapten pob blwyddyn, a'r flwyddyn ganlynol mae'r is-gapten yn camu fewn i'r brif rôl.