Athrawon Llydaweg yn dysgu o wersi Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Criw Mervent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y criw yn ymweld â chanolfannau yng Ngartholwg, Y Barri, Llanymddyfri ac Aberystwyth

Mae criw o athrawon o Lydaw wedi bod yn ymweld â Chymru i ddysgu mwy am y ffordd mae'r wlad yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Mae'r grŵp, sy'n rhan o sefydliad Mervent - corff sy'n gyfrifol am ddysgu Llydaweg i oedolion - yn gobeithio y bydd yr ymweliad yn hwb i'r iaith.

Yn ôl yr arweinydd, Yannig Menguy, maen nhw'n wynebu sawl her wrth geisio annog pobl i ddysgu'r iaith.

"Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol yn Ffrainc, felly mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd i ieithoedd lleiafrifol," meddai.

"Ry'n ni eisiau creu cyfleodd i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu gwaith oherwydd ar hyn o bryd mae pobl yn gofyn 'beth yw'r pwynt i fi ddysgu'r iaith? Ble alla'i ei defnyddio hi?'

"Mae angen pwrpas ar yr iaith fel ei bod hi'n fwy na rhyw hobi i ambell un."

Mae Drian Bernier, sy'n diwtor Llydaweg i oedolion, yn cytuno.

Mae wedi ei blesio'n fawr ar ôl gweld gwersi Cymraeg yng Nghanolfan Dysgu Gydol oes Gartholwg ger Pontypridd.

"Does dim gymaint â hynny yn siarad Llydaweg felly pan ni'n gweld y ganolfan yma, cynifer o bobl, cynifer o wersi, mae'n bwysig iawn i ni weld y gwaith chi'n ei wneud fan hyn," meddai.

'Ddim yn cael help'

Roedd tua miliwn o bobl yn siarad Llydaweg ar ddechrau'r ganrif ddiwetha', ond mae'r nifer wedi gostwng i ryw 200,000 erbyn hyn, gyda llai fyth o'r rheiny'n rhugl.

"Dwi'n poeni am ei dyfodol hi," meddai un o'r tiwtoriaid eraill, Anne Lefebvre.

"'Dyn ni ddim yn cael help i ddysgu'r iaith fel y'ch chi'n cael fan hyn. Fe allai hi ddiflannu achos does dim gymaint â hynny eisiau dysgu'r iaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Yannig Menguy yn gobeithio y bydd nifer y siaradwyr Llydaweg yn Llydaw wedi codi i 30% erbyn diwedd y ganrif

Mae Helen Prosser o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cydnabod bod targedau Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwaith yn haws yng Nghymru.

"Weithie pan chi'n gorfod gweithio mewn amodau gwael mae'n gallu gyrru'r tân yn y bol i gyflawni pethe - yn sicr mae mantais gyda ni," meddai.

"Mae gyda ni'r strategaeth i gael miliwn o siaradwyr, ni'n gallu mynd i lefydd a dweud 'dyma'n polisi ni felly dyma 'da ni'n gallu 'neud i weithio tuag at y polisi hwnnw' ac yn sicr dyw hynny ddim gyda nhw yn Llydaw ar hyn o bryd."

Ond dywedodd bod lle i wella yma hefyd.

Tra bod naw awr o Gymraeg yr wythnos yn cael ei ystyried yn ddysgu dwys yng Nghymru, 10 awr yr wythnos yw'r lleiafswm ar gyfer dysgu'r Iaith Fasgeg yng Ngwlad y Basg.

'Perthynas glos'

Un syniad sydd wedi taro'r ymwelwyr eisoes yw dysgu ar-lein, fel mae Mr Menguy yn egluro: "Mae gyda ni gyrsiau dwys sy'n para tri neu chwe mis ond nid pawb sydd â'r amser i'w gwneud nhw, felly byddai dysgu ar we yn gallu helpu gyda hyn."

Rhyw 5% o'r boblogaeth sy'n siarad Llydaweg ar hyn o bryd, ond mae Mr Menguy yn gobeithio y bydd hynny wedi codi i 30% erbyn diwedd y ganrif.

"Mae 'na berthynas glos rhwng Cymru a Llydaw diolch i femorandwm arbennig rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Rhanbarthol Llydewig," meddai.

"Mae hwnnw'n hybu cydweithio economaidd, diwylliannol ac ieithyddol rhwng y ddwy wlad felly ni'n gallu defnyddio hyn i ddweud, edrychwch beth maen nhw'n ei wneud yng Nghymru.

"Mae'n bosib achub yr iaith os y'n ni'n barod i wario a gosod targedau."